Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Gwaed Cymru a Metallica yn dod at ei gilydd i helpu i achub bywydau

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru, ynghyd â gwasanaethau gwaed eraill y DU, wedi cyhoeddi cydweithrediad unigryw, newydd gyda Metallica ac elusen y band, 'All Within My Hands', sy’n nodi'r tro cyntaf i wasanaethau gwaed ar draws y DU weithio ochr yn ochr â ffenomen mor enwog â hwn i hyrwyddo rhoi gwaed.

Fel rhan o ochr Ewropeaidd Taith y Byd Metallica, sef M72, bydd Gwasanaeth Gwaed Cymru yn cynnal sesiynau rhoi gwaed arbennig, sy’n gysylltiedig â thaith y band yng Nghaerdydd ar 28 Mehefin. Bydd y cydweithrediad yn rhedeg am wythnos cyn y cyngerdd ac am wythnos wedyn, ac yn rhoi cyfleoedd ychwanegol i roddwyr ddod ymlaen a helpu cleifion mewn angen ar draws Cymru.

Mae'r angen am waed yn gyson, a chyda tua saith diwrnod o stoc ar gael ar draws y DU, rhaid i wasanaethau gwaed ysbrydoli rhoddwyr presennol drwy’r amser i ddod nôl i roi gwaed ac i roddwyr newydd ddod ymlaen. Mae'r cydweithrediad hwn yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o'r rôl hanfodol y mae rhoddwyr yn ei chwarae wrth gefnogi dioddefwyr trawma, pobl sy'n cael triniaeth canser, mamau newydd, a'r rhai sy'n byw gyda chyflyrau hirdymor, fel clefyd y cryman-gelloedd.

Drwy ddefnyddio cyrhaeddiad a gwelededd cerddoriaeth fyw, nod yr ymgyrch ydy denu rhoddwyr newydd ac annog sgwrsio am roi gwaed, ac atgoffa pobl fod yr angen am waed yn parhau ymhell ar ôl i unrhyw un digwyddiad ddod i ben.

Meddai Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: “Mae hwn yn foment hollol unigryw ar gyfer rhoi gwaed yng Nghymru ac ar draws y DU. Mae gweithio mewn partneriaeth gyda band fel Metallica yn caniatáu inni gysylltu â chynulleidfaoedd newydd a thanlinellu'r angen parhaus am waed.

"Mewn un ystyr, mae gan bob un ohonom ychydig bach o 'fetel' yn ein gwaed - ond yn bwysicach fyth, mae gan bob un ohonom y gallu i helpu i achub bywydau trwy ddewis rhoi gwaed.

"Mae rhoi gwaed yn wirfoddol ac yn ddi-dâl yma yn y DU bob amser, ond mae pob person sy'n dewis rhoi gwaed yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gleifion a theuluoedd mewn angen." Rydym yn falch o fod yn rhan o gydweithrediad sy'n dod â phobl at ei gilydd i achub bywydau.”

Dywedodd llefarydd Metallica: “Lle bynnag y byddwn ni'n teithio iddi, rydyn ni eisiau rhoi rhywbeth ystyrlon yn ôl i’r cymunedau sy’n ein croesawu ni. Rydym wedi gweld yn yr Unol Daleithiau ac Awstralia sut y gall gweithio gyda gwasanaethau gwaed helpu i godi ymwybyddiaeth o roi gwaed a chefnogi cleifion, ac rydym yn gyffrous i wneud yr un peth yn y DU.

"Mae gweithio mewn partneriaeth gyda gwasanaethau gwaed yn ymwneud ag annog pobl i ofalu am ei gilydd ac i gefnogi'r rheiny sy'n dibynnu ar waed sydd yn cael ei roi bob dydd. Mae'n weithred syml sydd yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.”

Mae elusen Metallica, All Within My Hands, yn cefnogi cymunedau ar draws y byd drwy gryfhau gwasanaethau lleol ac ymateb i anghenion critigol. Mae'r cydweithrediad hwn yn adlewyrchu ymrwymiad ar y cyd i iechyd y cyhoedd, gweithredu cymunedol, ac yn helpu i sicrhau bod gwaed ar gael i gleifion sy'n dibynnu arno.

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn croesawu rhoddwyr o bob math o waed, ac mae rhoddwyr newydd yn cael eu hannog i ddod ymlaen.

 

I gael gwybod mwy ac i wneud apwyntiad i roi gwaed, ewch hon neu ffoniwch 0800 252 266.