20 Hydref 2026
Mae timau ar draws Gwasanaeth Canser Felindre yn cymryd rhan mewn gweithgaredd unigryw i nodi Wythnos Ryngwladol Atal Heintiau 2026, ac i dynnu sylw at y rôl bwysig y mae pawb yn ei chwarae wrth gadw cleifion, ymwelwyr a chydweithwyr yn ddiogel.
Fel rhan o wythnos ymwybyddiaeth eleni, bydd y Tîm Atal a Rheoli Heintiau (IPC) yn cynnal Ystafell Ddianc IPC ryngweithiol yng Nghanolfan Ganser Felindre, Caerdydd, ar 20 a 21 Hydref. Bydd y profiad, sydd wedi'i gynllunio i fod yn ddiddorol ac i ysgogi’r meddwl, yn dod â dysgu pobl am atal heintiau yn fyw trwy her unigryw fel rhan o dîm.
Mae ystafell ddianc eleni yn adeiladu ar lwyddiant menter ymgysylltu staff flaenorol y tîm, Game of Stools, a gafodd ei datblygu fel cyfraniad Gwasanaeth Canser Felindre at Grŵp Dysgu Cydweithredol Clostridioides difficile (C. diff) Cymru dan arweiniad Partneriaeth Gofal Diogel Perfformiad a Gwella GIG Cymru.
Fe wnaeth menter Game of Stools Gwasanaeth Canser Felindre ddenu mwy na 60 o staff trwy gemau a heriau rhyngweithiol wedi’u cynllunio i atgyfnerthu negeseuon allweddol ynghylch atal heintiau.
Gan fod cyfraddau C. difficile wedi aros yn gyson isel ar draws Gwasanaeth Canser Felindre, roedd y fenter yn canolbwyntio ar gynnal ymwybyddiaeth, hyder a pharodrwydd ymhlith staff drwy addysg, gan sicrhau bod timau'n parhau i fod yn barod i ymateb yn briodol pan fo amheuaeth o achosion.
Dangosodd y gwerthusiad fwy o hyder, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o egwyddorion atal a rheoli heintiau. Dywedodd y cyfranogwyr eu bod wedi ennill gwell dealltwriaeth o'r protocol SIGHT, mwy o hyder wrth adnabod dolur rhydd heintus a gwybod pa gamau i'w cymryd, yn ogystal â gwell ymwybyddiaeth o'u rôl wrth atal heintiau.
Gan adeiladu ar lwyddiant y fenter Game of Stools, mae'r Tîm Atal a Rheoli Heintiau (IPC) yn parhau i gyflwyno mentrau dysgu arloesol a deniadol fel rhan o’r Wythnos Ryngwladol Atal Heintiau.
Mae’r Ystafell Ddianc IPC, sydd yn cael ei chynnal ar 20 a 21 Hydref, yn cynnig ffordd ffres ac arloesol o ddysgu. Mae'r gweithgaredd yn annog staff i gydweithio wrth atgyfnerthu egwyddorion allweddol atal heintiau mewn ffordd hwyliog, ryngweithiol a chofiadwy. Mae hefyd yn hyrwyddo gwaith tîm, diogelwch cleifion ac ymrwymiad ar y cyd i atal heintiau.
Drwy gydol yr wythnos, bydd y Tîm Atal a Rheoli Heintiau (IPC) hefyd yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau ymwybyddiaeth ac ymgysylltu yn yr Ardal Gwybodaeth i Gleifion. Bydd y gweithgareddau hyn yn rhoi cyfleoedd i staff, cleifion ac ymwelwyr ddysgu mwy am atal heintiau a'r rôl y mae pawb yn ei chwarae mewn cadw ein hamgylchedd gofal iechyd yn ddiogel.
Dywedodd Julianne Golding-Sherman, Uwch Nyrs IPC yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre: "Mae atal heintiau yn gyfrifoldeb i bawb, ac mae'n chwarae rhan hanfodol mewn amddiffyn cleifion, ymwelwyr a chydweithwyr. Mae gweithgareddau fel yr Ystafell Ddianc yn ffordd hwyliog a diddorol i staff gryfhau eu gwybodaeth, cydweithio ac atgyfnerthu'r camau gweithredu syml sydd yn helpu i atal heintiau a chefnogi gofal diogel o ansawdd uchel.
Mae’r Grŵp Dysgu Cydweithredol C. diff yn cefnogi timau byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ar draws GIG Cymru i nodi, gweithredu a chynnal gwelliannau sy'n lleihau nifer yr achosion a baich C. diff.
Drwy ddarparu cymorth i dimau ar gyfer gwella a newid ymddygiad, ynghyd â chyfleoedd i gydweithio a dysgu ar y cyd, nod y cydweithrediad yw gwreiddio gwelliannau cynaliadwy y gellir eu mabwysiadu a'u rhoi ar waith yn eang ar draws GIG Cymru.
Meddai Hayley Peters, Cyfarwyddwr Nyrsio Perfformiad a Gwella GIG Cymru: “Gall heintiau C. diff gael canlyniadau pellgyrhaeddol a difrifol i gleifion, eu hanwyliaid a’r system gofal iechyd. Gall pob haint arwain at niwed sy'n newid bywydau.
“Mae'r Grŵp Dysgu Cydweithredol C. diff wedi dod ag arbenigwyr o bob cwr o Gymru at ei gilydd i rannu, dysgu a gwella gyda’i gilydd. Mae'n galonogol gweld cyfranogwyr, gan gynnwys y tîm yn Felindre, yn adeiladu ar fentrau fel Game of Stools ac Ystafell Ddianc yr wythnos hon, i helpu i leihau effaith sylweddol C. diff ar gleifion a staff ar draws Cymru.”
Mae Gwasanaeth Canser Felindre yn darparu gofal canser arbenigol i fwy na 1.5 miliwn o bobl ar draws de ddwyrain Cymru a thu hwnt. Fel rhan o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, mae gwasanaethau’n cael eu darparu trwy fodel ‘prif ganolfan a lloerennau’, gyda Chanolfan Ganser Felindre yn gwasanaethu fel canolfan driniaeth, addysgu ac ymchwil arbenigol ar gyfer oncoleg anfeddygol.
Mae Gwasanaeth Canser Felindre yn darparu ystod eang o driniaethau, gan gynnwys cemotherapi, triniaethau gwrth-ganser systemig (SACT), radiotherapi a gofal lliniarol arbenigol. Drwy ddysgu, arloesi, ymchwil a gwella gwasanaethau, mae'r gwasanaeth wedi ymrwymo i ddarparu gofal o'r ansawdd uchaf i gleifion a theuluoedd ar draws Cymru.