15 Mehefin 2026
Mae timau o Wasanaeth Canser Felindre a'i bartneriaid wedi cael eu cydnabod am ragoriaeth, arloesedd a chydweithio yng Ngwobrau Canser Moondance 2026.
Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn digwyddiad dathlu a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar ddydd Iau 11 Mehefin. Mae’r gwobrau’n cael eu cynnal bob dwy flynedd, ac yn cydnabod cyfraniadau rhagorol ar draws y llwybr canser cyfan. Maen nhw’n tynnu sylw at y gwelliannau sy'n helpu i wella canlyniadau i bobl yr effeithir arnynt gan ganser ar draws Cymru.
Meddai Cyfarwyddwr Gwasanaeth Canser Felindre, Kate Hannam: “Rydym yn falch dros ben o weld ein timau a’n partneriaid yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Canser Moondance. Mae'r cyflawniadau hyn yn adlewyrchu'r ymroddiad, yr arbenigedd a'r angerdd sy'n sail i bopeth a wnawn yn Felindre. Drwy gydweithio ar draws Cymru, rydym yn parhau i wella canlyniadau a phrofiadau i bobl yr effeithir arnynt gan ganser, ac mae'n wych gweld yr effaith honno'n cael ei chydnabod ar lwyfan cenedlaethol.”
Denodd gwobrau eleni fwy na 110 o enwebiadau, gyda 62 o unigolion, timau a phartneriaethau yn cyrraedd y rhestr fer ar draws 10 categori. Cafodd enwebeion o tua 30 o sefydliadau eu hasesu gan banel beirniadu annibynnol, a chwaraeodd timau Gwasanaeth Canser Felindre rôl flaenllaw ymhlith yr enillwyr.
Categori Gwobrwyo: Cyflawniad - Gweithlu Canser
Enillydd: Gwasanaeth Sgil-effeithiau Imiwno-Oncoleg De Ddwyrain Cymru, Gwasanaeth Canser Felindre
Cafodd Gwasanaeth Sgil-effeithiau Imiwno-Oncoleg De Ddwyrain Cymru, sydd wedi'i leoli yng Nghanolfan Canser Felindre, ei gydnabod am ei ddull trawsnewidiol o reoli digwyddiadau niweidiol sy'n gysylltiedig ag imiwnedd mewn cleifion sy'n derbyn imiwnotherapi.
Cyn cyflwyno'r gwasanaeth, roedd cleifion yn aml yn profi oedi mewn gofal, gyda mynediad cyfyngedig at arbenigedd. Mae'r model newydd wedi cyflwyno clinigau dan arweiniad nyrsys, tîm amlddisgyblaethol pwrpasol, a llinell gyngor ffôn arbenigol sydd yn eu tro, yn gallu arwain at ganfod canser a thrin cymhlethdodau yn gynharach.
Mae'r effaith wedi bod yn sylweddol. Mae'r gwasanaeth wedi helpu 65% o gleifion i osgoi gorfod aros yn yr ysbyty, ac mae'n rheoli rhwng 40 a 60 o achosion cymhleth ar unrhyw adeg benodol. Mae cleifion yn nodi mynediad cyflymach at gymorth arbenigol a gwell dilyniant mewn gofal, tra bod llawer bellach yn gallu parhau i gael triniaeth yn ddiogel.
Mae staff hefyd wedi elwa, gyda 92% yn nodi mwy o hyder mewn rheoli sgîl-effeithiau imiwnotherapi. Yn ogystal, mae'r gwasanaeth wedi arbed tua £615,000 mewn costau drwy leihau derbyniadau brys ac arosiadau yn yr ysbyty. Mae ei lwyddiant wedi arwain at y gwasanaeth yn cael ei gydnabod fel un o’r gwasanaethau mwyaf blaenllaw o'i fath yn y DU, gyda'r model bellach yn cael ei fabwysiadu mewn rhanbarthau eraill.
Categori Gwobrwyo: Arloesi a Gwella - Triniaeth Canser
Enillydd: Tîm Canser o Darddiad Anhysbys (CUP) De Ddwyrain Cymru
Mae tîm aml-bartner dan arweiniad Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wedi cael ei gydnabod am ei waith arloesol o ran gwella gofal i gleifion â Chanser o Darddiad Anhysbys.
Mae'r tîm yn dwyn ynghyd arbenigedd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Felindre, Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Perfformiad a Gwella GIG Cymru, Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan, y Ganolfan Treialon Ymchwil, Pwyllgor Comisiynu ar y Cyd GIG Cymru, a Chanolfan Ymchwil Canser Cymru.
Mae'r tîm wedi datblygu ffordd glir, sy'n canolbwyntio ar y claf o drin math cymhleth o ganser sy'n aml yn cael ei ddiagnosio yn y cyfnod datblygedig. Mae gwelliannau’n cynnwys system e-gyfeirio bwrpasol, fframwaith adborth cleifion strwythuredig, a'r defnydd rheolaidd o broffilio moleciwlaidd i gefnogi diagnosis a chynllunio triniaeth.
Mae'r datblygiadau hyn wedi arwain at well cywirdeb diagnostig, cyfraddau triniaeth uwch, a chanlyniadau gwell i gleifion. Mae gwaith y tîm hefyd wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol, gan osod De Ddwyrain Cymru ar flaen y gad o ran gofal CUP a dylanwadu ar arfer gorau ar draws y DU.
Categori Gwobrwyo: Arloesi a Gwella - Gweithio Gyda'n Gilydd
Enillydd: Adeiladu Gweithlu Radiotherapi Aml-broffesiynol
Cafodd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, mewn partneriaeth ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ei chydnabod hefyd am ei gwaith cydweithredol i gryfhau'r gweithlu radiotherapi ar draws Cymru.
Mae'r fenter, dan arweiniad y Grŵp Amlinellu Targedau Radiotherapi Aml-Broffesiynol, wedi dod â sefydliadau at ei gilydd, gan gynnwys Advancing Radiotherapy Cymru, yr Is-bwyllgor Oncoleg Glinigol, y Tîm Canser Cenedlaethol, a phartneriaid addysg.
Mae'r rhaglen yn datblygu ffordd i wahanol arbenigwyr weithio gyda’i gilydd i ddiffinio lle mae radiotherapi yn cael ei dargedu, ac yn galluogi radiograffwyr therapiwtig, gwyddonwyr clinigol, technolegwyr a meddygon preswyl i adeiladu cymwyseddau o fewn fframwaith llywodraethu cadarn.
Drwy sefydlu model hyfforddi cenedlaethol, adnoddau a rennir ac asesiad cyson, nod y cydweithrediad ydy lleihau amrywiad, gwella gwydnwch y gweithlu, a chefnogi dilyniant cyflymach o ddiagnosis i driniaeth.
Mae Menter Canser Moondance, sy'n cynnal y gwobrau, yn cefnogi syniadau arloesol ac unigolion sy'n gweithio i wella goroesiad canser yng Nghymru. Mae'r gwobrau'n tynnu sylw at y pwysigrwydd o gydweithio a chyflwyno gwelliannau parhaus wrth ddarparu gofal gwell i gleifion.
Cyrhaeddodd Gwasanaeth Canser Felindre y rhestr fer mewn 10 categori gwahanol i gyd, a oedd hefyd yn cynnwys:
Mae Gwasanaeth Canser Felindre yn darparu gofal canser arbenigol i fwy na 1.5 miliwn o bobl ar draws De Ddwyrain Cymru a thu hwnt. Fel rhan o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, mae gwasanaethau’n cael eu darparu trwy fodel ‘prif ganolfan a lloerennau’, gyda Chanolfan Canser Felindre yn gwasanaethu fel canolfan driniaeth, addysgu ac ymchwil arbenigol ar gyfer oncoleg anfeddygol.
Mae'r Ymddiriedolaeth yn darparu ystod eang o driniaethau, gan gynnwys cemotherapi, triniaethau gwrth-ganser systemig (SACT), radiotherapi a gofal lliniarol arbenigol, ochr yn ochr â Gwasanaeth Gwaed Cymru.
Mae'r gwobrau diweddaraf hyn yn tanlinellu ein hymrwymiad parhaus i ddarparu gofal arloesol o ansawdd uchel ac i gydweithio â phartneriaid i wella canlyniadau i'r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ar draws Cymru.