Neidio i'r prif gynnwy

Symud craen twr sydd ar ddod ar safle newydd Canolfan Ganser Felindre

Roedden ni eisiau rhoi gwybod i chi fod un o'r craeniau ar safle’r Ganolfan Ganser Felindre newydd yn mynd i gael ei dynnu i lawr.

Mae caniatâd wedi cael ei roi i dynnu’r craen i lawr y tu allan i oriau gwaith arferol am resymau iechyd a diogelwch.

Mae Hysbysiad Adran 61 wedi cael ei roi i dynnu craen pedwar ar y safle i lawr dros benwythnos, gan ganiatáu i'r tîm gyflawni'r gwaith mewn amgylchedd cwbl reoledig, heb y gweithlu dyddiol arferol ar y safle.

Bydd y gwaith cymeradwy yn digwydd ar:

Ddydd Sadwrn 6 Mehefin 2026 rhwng 13:00 a 18:00

Ddydd Sul 7 Mehefin 2026 rhwng 09:30 a 18:00

Ni fydd unrhyw waith yn dechrau cyn 9.30am ar ddydd Sul, ac ni fydd unrhyw waith yn parhau ar ôl 6pm ar y naill ddiwrnod na'r llall.

Cyhoeddir caniatâd Adran 61 gan yr Awdurdod lleol i ganiatáu i weithgareddau adeiladu penodol gael eu cyflawni y tu allan i oriau gwaith safonol, ac i sicrhau bod lefel y sŵn yn cael ei reoli a’i fonitro.

Rydym yn sylweddoli y gallai'r gwaith hwn fod yn fwy amlwg na gwaith arferol sydd yn cael ei wneud ar y safle, a hoffem ddiolch i drigolion ymlaen llaw am eu hamynedd a'u dealltwriaeth tra bod y cam pwysig hwn o'r gwaith adeiladu yn cael ei gwblhau.