Neidio i'r prif gynnwy

Astudiaeth SYMPLIFY

15 Medi 2021

Mae astudiaeth SYMPLIFY ar waith i asesu perfformiad prawf sy’n ceisio canfod sawl math o ganser yn gynnar (prawf MCED).

Ac yntau’n agor i recriwtio cleifion ym mis Gorffennaf 2021, bydd SYMPLIFY yn asesu perfformiad prawf MCED ymhlith pobl sy’n cael eu hanfon ar un o bum llwybr atgyfeirio cyflym gan eu meddyg teulu, a hynny gan fod ganddynt symptomau canser posibl. Bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn yr astudiaeth yn cael eu profion diagnostig yn yr un ffordd â’r arfer, ond byddant hefyd yn rhoi sampl gwaed a chaniatâd i dîm SYMPLIFY wirio eu cofnodion iechyd yn ddiweddarach i weld a gawsant ddiagnosis o ganser a pha apwyntiadau a phrofion eraill a gawsant.

Ar ddiwedd yr astudiaeth, ar ôl profi’r gwaed â phrawf MCED, bydd y tîm yn deall mwy ynglŷn â pha mor dda mae’n gweithio ymhlith y garfan hon o bobl. Bydd hyn yn eu helpu i ddylunio treial arall lle gallant wirio sut i ddefnyddio’r prawf hwn i benderfynu ar bwy mae angen atgyfeiriad cyflym i chwilio am ganser posibl a pha brofion i’w defnyddio yn dilyn canlyniad MCED positif.

Cydweithrediad yw Astudiaeth SYMPLIFY rhwng yr Adran Oncoleg ym Mhrifysgol Rhydychen, Grŵp Ymchwil Canser yn Adran Gwyddorau Iechyd Gofal Sylfaenol Nuffield, y Swyddfa Dreialon Clinigol Oncoleg a’r Uned Dreialon Clinigol Gofal Sylfaenol.

Mae SYMPLIFY wrthi’n recriwtio mewn safleoedd ledled y DU, gan gynnwys 13 o Ymddiriedolaethau’r GIG yn Lloegr a 19 o ysbytai dosbarth yng Nghymru mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.