Neidio i'r prif gynnwy

Stori'r teulu Union | Rhoi yn ôl i Felindre

23 Mehefin 2026

I John Union, sydd bellach yn Aelod Annibynnol o'r Bwrdd yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, dechreuodd ei gysylltiad personol â Felindre yn 2006, pan ddaeth ei wraig Denise o hyd i lwmp ac yna, cael ei diagnosio gyda chanser y fron.

Dros y chwe blynedd nesaf, derbyniodd Denise ofal a thriniaeth gan Wasanaeth Canser Felindre yn ystod cyfnod o welliant ac wedyn, pan gafodd ganser eto.  

Ar adeg y diagnosis o ganser eilaidd, roedd y teulu'n mynychu Felindre bob mis. Esboniodd merch Denise, Vicki, fod Denise wedi derbyn cyngor yn rheolaidd: "Roedd hi gyda'r tîm drwy'r amser, a oedd bron fel cyfeillgarwch bryd hynny hefyd. Chi’n gwybod, roedd yn lle braf i fod ynddo.''

Disgrifiodd John effaith barhaol taith y teulu gyda chanser, ac meddai: ''Hyd yn oed wrth yrru yma heddiw, mae eich stumog yn troi. Oherwydd yr atgofion, ond hefyd, wrth feddwl  am y bobl sy’n dod yma, yn enwedig y rhai sy’n dod am y tro cyntaf, rydych chi’n gwybod yr ofn a’r teimlad o ddim yn gwybod beth sydd o'ch blaen, a’r teulu ehangach mae’n effeithio arno.

Rhywbeth y mae'r teulu Union yn tynnu sylw ato yw pa mor gefnogol oedd Felindre yn ystod y blynyddoedd anodd iawn hynny - nid yn unig i Denise, ond hefyd i’r teulu Union ehangach, gan gynnwys eu plant, Vicki a Richard. Roedd Vicki yn y cyfnod yn ei bywyd rhwng gorffen prifysgol a dechrau gweithio, pan gafodd Denise ganser eilaidd, ac felly, treuliodd lawer o amser gyda'i mam pan oedd hi’n cael profion ac yn mynd i driniaethau. Dywedodd y teulu fod Denise wedi elwa o un o’r adnoddau mae cronfeydd Elusen Canser Felindre yn ei ariannu: talebau wigiau.

Dywedodd Vicki: ''Dangosodd pawb gymaint o garedigrwydd, a’i gwneud hi’n le braf i fod yno, er yn amlwg, roedd hi’n gyfnod tywyll iawn.''

''Cafodd hi ofal da iawn gan yr holl staff, o'r derbynyddion, i'r clinigwyr a'r nyrsys,'' ychwanegodd John.


Yn anffodus, bu farw Denise yn 2012, yn 56 oed. Hyd heddiw, nid yw Gwasanaeth Canser Felindre erioed wedi gadael calonnau'r teulu Union, sy'n amlwg i'w weld trwy eu gweithgareddau casglu rhoddion a chodi arian dros y blynyddoedd.

Ar y pryd, roedd John yn gweithio yn Barclays, lle'r oedd ganddo lawer o gwsmeriaid a roddodd arian yn garedig i Elusen Canser Felindre y flwyddyn gyntaf ar ôl i Denise farw. Mae Vicki hefyd wedi cymryd rhan mewn heriau fel Ras 10K Bae Caerdydd er cof am Denise.

Gellir dadlau y cynhaliwyd digwyddiad codi arian mwyaf llwyddiannus y teulu Union ym mis Mawrth eleni. Dywedodd John: ''Y syniad ar gyfer y digwyddiad codi arian oedd cofio Denise ar beth fyddai wedi bod yn ben-blwydd iddi yn 70, codi arian i'r elusen, a mwynhau fel teulu. A chyflawnwyd yr holl amcanion.''

Roedd digwyddiad codi arian gyda'r nos y teulu yn llwyddiant. Fe wnaethon nhw lwyddo i ddod o hyd i rywfaint o wobrau raffl anhygoel, gan gynnwys arhosiad gwely a brecwast yn y Celtic Manor, talebau Charlotte Tilbury, a thocynnau VIP Monty Don. Cawsant gefnogaeth leol a rhoddion gan lawer o fusnesau ym Mhenarth hefyd, fel siopau trin gwallt, salonau ewinedd a bwytai – yn syml, drwy sôn wrthyn nhw am y digwyddiad a gofyn am gefnogaeth.

Dywedodd John: ''Mae gan fusnesau arian wedi'i neilltuo ar gyfer elusennau, felly maen nhw wrth eu bodd yn chwilio am  ddigwyddiadau lleol i’w cefnogi. Fy nghyngor i bobl yw, os ydych chi eisiau codi arian, ewch allan a gofynnwch.''

Ar ôl cael arian cyfatebol gan Barclays, roedd teulu'r Union wedi codi tua phum mil a hanner o bunnoedd i Felindre, swm ysbrydoledig i fod yn hynod falch ohono.

Esboniodd John yr arwyddocâd emosiynol y tu ôl i'r digwyddiad: "Mae angen i mi ddweud hyn heb fynd yn rhy emosiynol, ond pan wnaeth Denise ddarganfod bod ei chanser yn derfynol, dywedodd 'Fydda i byth yn cael cwrdd â fy wyrion'. Felly, pan ffoniodd Vicki fi gyda'r syniad am y digwyddiad, roeddwn i eisiau cefnogi Vicki oherwydd mae gennym ni bedwar o wyrion nawr, ac maen nhw'n wyrion iddi hi hefyd. Ac roedden nhw'n mynd i fod yno.''


Mae’r teulu Union wedi rhoi rhywbeth yn ôl yn rheolaidd i Elusen Canser Felindre, oherwydd eu bod nhw eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r lle wnaeth eu cefnogi nhw pan oeddent ei angen fwyaf.

Mae neges John Union i godwyr arian y dyfodol yn syml: ewch amdani. Boed yn unigolyn gyda syniad, yn gwmni lleol bach, neu'n sefydliad corfforaethol mawr, mae codi arian ar gyfer Felindre yn haws nag y buasech yn meddwl, ac mae'r effaith yn ddofn.

Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan y teulu Union? O ddigwyddiadau codi arian lleol i heriau personol, mae eich cefnogaeth yn helpu i sicrhau bod pobl â chanser yn derbyn y gofal, y caredigrwydd a'r gobaith sydd eu hangen arnynt.

Darganfyddwch sut allwch chi gymryd rhan gydag Elusen Canser Felindre heddiw.