Problemau byd-eang Microsoft yn achosi anghyfleustra

13 Tachwedd 2026

Rydyn ni am rannu diweddariad clou i sicrhau i'n cleifion a'u gofalwyr fod ein gwasanaethau'n parhau fel yr arfer er gwaetha'r problemau gyda Microsoft 365.

Os ydych chi wedi anfon e-bost atom heddiw neu ddoe, mae'n debyg y bydd oedi wrth i ni ymateb. Mae hyn yn sgil y ffaith nad yw e-byst wedi ein cyrraedd fel yr arfer oherwydd problemau Microsoft. Byddwn ni'n ymateb i chi cyn gynted â phosib.

Os oes angen i chi gysylltu â ni heddiw, ystyriwch ffonio eich tîm gofal neu ein switsfwrdd ar 02920 615888 yn hytrach nag anfon e-bost.

Diolch am eich cefnogaeth barhaus. Rydyn ni'n gwerthfawrogi eich amynedd a'ch dealltwriaeth.