Neidio i'r prif gynnwy

Podlediad 'The Immunobuddies' yn ateb cwestiynau claf ynglŷn ag imiwnotherapi

28 Tachwedd 2023

Mae podlediad, sydd wedi ei greu a'i gyd-gyflwyno gan Oncolegydd Ymgynghorol yn Felindre, wedi rhyddhau cyfres fach o benodau sy'n ateb cwestiynau ynglŷn ag imiwnotherapi o safbwynt y claf.

Podlediad am ddim a ddechreuodd ym mis Chwefror 2023 yw 'The Immunobuddies', a'i darged yw unrhyw un sydd â diddordeb mewn imiwnotherapi a'i effaith wrth drin canser.

Cliciwch yma i wrando ar benodau 56-61...

ar Spotify
ar Apple Podcasts
ac ar Buzzsprout.

Bob pennod, mae Dr Ricky Frazer, sy'n Oncolegydd Ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser Felindre, yn cael cwmni Dr Anna Olsson-Brown o Ganolfan Ganser Clatterbridge yn Lerpwl, i drafod y cyfyng-gyngor, yr heriau a’r cynnydd a wnaed wrth drin cleifion sy’n cael imiwnotherapi i drin canser. Mae'r 60 a mwy o benodau sydd wedi eu rhyddhau wedi cael eu llwytho i lawr fwy na 14,000 o weithiau, ac maent wedi cynnwys ymddangosiadau gwadd gan arbenigwyr rhyngwladol, gan gynnwys athrawon o Harvard a’r MD Anderson yn Unol Daleithiau America.

Fodd bynnag, dyma’r tro cyntaf i'r podlediad wahodd claf i gymryd rhan ynddo, a thrwy gydol y chwe phennod, mae Imogen Llewellyn, sy'n glaf melanoma cam pedwar, yn rhannu ei phryderon ac yn holi Ricky ac Anna. Wrth baratoi ar gyfer y podlediadau, casglwyd cwestiynau gan gleifion a thimau clinigol.

Mae'r pynciau dan sylw'n amrywio o beth yw imiwnotherapi a'i sgil-effeithiau cyffredin, i driniaeth gynorthwyol a rôl diet ac ymarfer corff.

Meddai Dr Ricky Frazer:

"Roedd cleifion yn dod o hyd i'r podlediad ar lafar, ac roedd hi'n teimlo'n iawn creu cynnwys yn benodol ar eu cyfer. A dweud y gwir, dylen ni fod wedi gwneud hyn cyn nawr. Mae cleifion mor aml yn dweud nad ydyn nhw wir yn gwybod at ble i droi i gael gwybodaeth ddibynadwy. Y gobaith yw y bydd hyn o gymorth."

 

Ynglŷn ag imiwnotherapi yn Felindre

Mae Canolfan Ganser Felindre wedi chwarae rhan allweddol o ran triniaeth ar gyfer tocisgeddau yn sgil imiwnotherapi.

Yn rhan o brosiect dan arweiniad Dr Hilary Williams a Dr Ricky Frazer, cawsom £830,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru i greu Gwasanaeth Tocsigeddau Imiwnotherapi a lansiwyd ym mis Medi 2022. Ym mis Tachwedd 2023, dyfarnwyd Gwobr Rhagoriaeth Arloesedd Cenedlaethol iddynt yn Glasgow am eu heffeithiau cadarnhaol ar ofal cleifion.

Ei nod yw datblygu gwasanaethau canser ar yr un diwrnod i atal cleifion gyda chymhlethdodau rhag gorfod mynd i'r ysbyty pan fydd hynny'n bosibl, a sicrhau bod tocsigeddau'n cael eu canfod yn gynnar er mwyn cadw cleifion ar driniaeth.