13 Hydref 2026
Mae'n braf gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre gyhoeddi mai Pam Wenger sydd wedi ei phenodi'n Gyfarwyddwr Llywodraethu newydd.
Mae Pam yn ymuno o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, lle bu’n Gyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol. Yn Weithiwr Proffesiynol Llywodraethu Siartredig, mae ganddi 30 mlynedd a mwy o brofiad ar draws y GIG yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal ag yn y sector annibynnol.
Drwy gydol ei gyrfa, mae hi wedi arwain swyddogaethau llywodraethu, risg a chydymffurfiaeth, wedi cefnogi gwelliant sefydliadol ac wedi hyrwyddo diwylliannau cadarnhaol yn y gweithle.
Meddai Pam:
"Mae'n braf cael ymuno ag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ac ymgymryd â'r rôl hon. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad er mwyn gwneud penderfyniadau effeithiol, cryfhau ein trefniadau llywodraethu a helpu i gyflawni uchelgeisiau'r Ymddiriedolaeth ar gyfer cleifion, staff a chymunedau."
"Drwy gydol fy ngyrfa, rydw i wedi bod yn frwd dros greu diwylliannau sy'n rhoi gwerth, cymorth a grym i bobl, a lle mae gwerthoedd fel tosturi, cynhwysiant a pharch yn llywio'r ffordd rydyn ni'n gweithio a'r gofal rydyn ni'n ei ddarparu."
Meddai Carl James, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre:
"Hoffwn i longyfarch Pam am gael ei phenodi ac edrychaf ymlaen at ei chroesawu i'r Ymddiriedolaeth yn ddiweddarach eleni.
"Mae gan Pam brofiad helaeth o bob rhan o'r GIG a'r sector annibynnol, ynghyd â hanes cryf o gefnogi sefydliadau trwy brosesau llywodraethu a sicrwydd effeithiol. Bydd ei harbenigedd yn helpu'r Ymddiriedolaeth wrth i ni barhau i ddatblygu a gwella ein gwasanaethau i gleifion, staff a chymunedau."