Neidio i'r prif gynnwy

Oncolegwyr Felindre yn ennill gwobr ryngwladol fawreddog

Mae dau aelod o Dîm Oncoleg Canolfan Ganser Felindre wedi cipio gwobr fawreddog yng Nghyngres Cymdeithas Oncoleg Feddygol Ewrop (ESMO) eleni.

Enillodd Dr Ricky Frazer a Dr Senjuti Gupta, ynghyd â chydweithwyr o sawl Ymddiriedolaeth a Chanolfan GIG o bob rhan o'r DU, Wobr y Poster Gorau yng nghategori canser yr arennau yn nigwyddiad eleni ym Mharis, Ffrainc.

ESMO yw'r prif sefydliad proffesiynol ar gyfer oncoleg feddygol. Gyda mwy na 25,000 o aelodau yn cynrychioli gweithwyr proffesiynol oncoleg o 160 a mwy o wledydd ledled y byd, ESMO yw'r gymdeithas gyfeirio ar gyfer addysg a gwybodaeth oncoleg.

Mae'r poster (sydd i'w weld yma) yn amlinellu canlyniadau cleifion yn y cyfnod modern sydd â charsinoma celloedd yr arennau a metastasis yr ymennydd (cleifion y mae eu canser wedi lledaenu o'i safle gwreiddiol i'r ymennydd).

Hefyd, mae'n tynnu sylw at ba mor aml y mae cleifion yn datblygu canser ar yr ymennydd oherwydd canser yr arennau, a’i nod yw defnyddio data’r byd go iawn i wella canllawiau ac ymarfer clinigol ledled y DU.

“Mae'n braf iawn cael y gydnabyddiaeth hon”, meddai Dr Ricky Frazer, a dderbyniodd y wobr ar y cyd yn y gyngres ym Mharis. “Mae cleifion gyda chanser yr arennau’n byw’n hirach nag erioed o’r blaen ac mae astudiaethau fel hyn yn llywio arfer clinigol o ran trin cleifion sy’n datblygu clefyd yn yr ymennydd.”

Mae Canolfan Ganser Felindre, dan arweiniad Dr Frazer a Dr Gupta, hefyd wedi gweithio’n agos gyda chanolfannau canser ym Mryste, Taunton a Truro i ffurfio Rhaglen Gydweithredol Oncoleg Arennau Genedlaethol y DU (UKROC), sy’n parhau i weithio gyda chanolfannau ledled y DU i ddarparu tystiolaeth gyfoes y byd go iawn.

Ychwanegodd Ricky: Mae angen hyn [UKROC] er mwyn llywio ymarfer dyddiol a gwella gofal cleifion a chanlyniadau i’r rheiny sy’n cael diagnosis o ganser yr arennau.”

Meddai Dr Senjuti Gupta “Rwy’n falch o fod wedi cyfrannu at ddarn o waith sydd bellach yn cael ei gydnabod ar lefel ryngwladol, mewn partneriaeth â dau fyfyriwr meddygol rhagorol o Brifysgol Caerdydd, Becky Alexander a Megan Driver, yn rhan o raglen leoliadau parhaus SSC yng Nghanolfan Ganser Felindre.

“Mae’r darnau hyn o waith wedi dangos sut mae imiwnotherapi a'r gwaith o drin cleifion sy’n cael imiwnotherapi ar gyfer nifer o fathau o diwmor fel canser yr arennau wedi dod i’r amlwg.”

Un o gasgliadau'r poster yw bod dadl gref dros ddefnyddio Imiwnotherapi i wella tebygolrwydd cyffredinol cleifion o oroesi ar ôl datblygu metastasis yr ymennydd, a dylid ystyried delweddu ymennydd rheolaidd hefyd.

Yn ddiweddar, mae Felindre wedi lansio Gwasanaeth Tocsigeddau Imiwnotherapi newydd arloesol, a fydd yn gwella gofal i gleifion imiwnotherapi o bob rhan o dde-ddwyrain Cymru ac yn lleihau nifer y cleifion sy'n gorfod mynd i’r ysbyty er mwyn cael triniaeth am eu tocsigeddau.

 

Cliciwch yma i weld y poster buddugol.