Dydy'r cynnwys hwn ddim ar gael yn Gymraeg yn anffodus. Gweler y fersiwn Saesneg.
Mae prosiect y Ganolfan Ganser Felindre newydd wedi cyrraedd carreg filltir bwysig, gyda'r Ymddiriedolaeth yn cael mynediad i rannau cyntaf o’n cartref newydd.
Mae tîm digidol yr Ymddiriedolaeth bellach wedi derbyn mynediad graddol i ardaloedd allweddol o fewn yr adeilad, cyn y byddwn yn agor yn nhymor y gwanwyn 2027.
Mae'r ganolfan wedi cael ei chynllunio i dyfu ac addasu, ac mae'r seilwaith digidol gwell hefyd yn gonglfaen i'n strategaeth ar gyfer y dyfodol. Gyda mannau clinigol safonol a hyblyg, seilwaith modern, a defnydd ynni mwy gwyrdd, bydd y CGFn yn ateb anghenion newidiol gofal canser, ac yn darparu gwerth hirdymor i'n cleifion, staff a'r GIG.
Meddai cyfarwyddwr prosiect y CGFn, David Powell: "Mae mynediad i'n tîm digidol yn garreg filltir arwyddocaol i'n prosiect Canolfan Ganser Felindre newydd. Mae'n nodi'r pwynt lle mae'r adeilad yn dechrau symud o fod yn brosiect adeiladu i fod yn gyfleuster gofal iechyd gweithredol o'r radd flaenaf.
"Mae'r broses drosglwyddo gam wrth gam hon yn caniatáu inni ddechrau paratoi'r ganolfan ar gyfer y gwasanaethau a'r dechnoleg a fydd yn cefnogi ein cleifion a'n staff o'r diwrnod cyntaf." Mae pob cam o fynediad yn ein dwyn yn agosach at agor canolfan ganser o safon fyd-eang."
Dywedodd Ian Taylor, Pennaeth Dylunio Seilwaith Digidol: "Y seilwaith digidol sydd yn cael ei osod yn ystod y cyfnod mynediad hwn fydd asgwrn cefn ein canolfan ganser newydd. Mae sefydlu rhwydwaith diogel, gwydn sy’n perfformio’n uchel yn hanfodol cyn y gallwn ddechrau comisiynu'r systemau y bydd staff a chleifion yn dibynnu arnynt bob dydd.
"Dros yr wythnosau nesaf, bydd ein timau a'n partneriaid yn ffurfweddu ac yn profi seilwaith y rhwydwaith, ac yn sicrhau ei fod yn gadarn, yn wydn ac yn barod i gefnogi ystod eang o wasanaethau digidol ar draws yr adeilad. Mae'r gwaith sydd yn digwydd nawr yn creu'r sylfeini ar gyfer amgylchedd gofal iechyd modern sydd yn gallu esblygu ochr yn ochr â datblygiadau mewn gofal canser."
Mae’r ganolfan wedi’i chyfarparu’n llawn â Wi‑Fi ac yn cynnwys arwyddion digidol, system check-in ddigidol, a system barcio ddigidol. Mae cynlluniau ar waith i gyflwyno platfform i gleifion hefyd, a fydd yn galluogi cleifion i archebu prydau bwyd ac i gael mynediad at wybodaeth sy’n ymwneud â’u gofal.
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd mynediad yn gyfyngedig i ystafelloedd TG penodol i ddechrau, ond byddant yn cael eu trosglwyddo i'r Ymddiriedolaeth yn raddol wrth iddynt ddod ar gael.
Bydd cam cyntaf y prosiect yn canolbwyntio ar osod y seilwaith digidol hanfodol yn y canolfannau data. Mae hyn yn cynnwys y rhwydwaith craidd a'r waliau tân sy'n diogelu'r gwasanaethau digidol yn y ganolfan.
Bydd timau'n dechrau cynnal profion i wneud yn siŵr bod y rhwydwaith yn ddiogel, yn wydn ac yn perfformio fel y disgwylir. Bydd hyn yn cynnwys profi cyflenwadau pŵer, cysylltedd data a ffurfweddau systemau.
Erbyn diwedd y cyfnod mynediad, bydd y platfform wedi'i sefydlu, ac yn darparu'r seilwaith sylfaenol y gellir adeiladu a chynnwys gwasanaethau clinigol, corfforaethol a gweithredol arno.
Wrth i rannau pellach o'r adeilad gael eu trosglwyddo, bydd timau'n gosod pwyntiau mynediad diwifr, yn cysylltu offer ac yn gweithredu unrhyw newidiadau ffurfweddu angenrheidiol i gefnogi gofynion gweithredol yn y dyfodol.
Mae hon wedi bod yn broses gydweithredol ar draws yr Ymddiriedolaeth – diolch i’n timau ystadau, iechyd a diogelwch a diogelwch tân am sicrhau bod ein staff a’n contractwyr yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi wrth iddynt gyflawni’r cam hollbwysig hwn.
Mae'r ganolfan yn cael ei chwblhau a'i throsglwyddo mewn camau. Rhaid i bob cam fodloni safonau a gofynion ansawdd diffiniedig cyn symud ymlaen i'r cam nesaf. Mae hyn yn sicrhau bod yr holl seilwaith, systemau ac amgylcheddau yn barod ar gyfer y camau nesaf, ac yn helpu i sicrhau trosglwyddiad diogel a llwyddiannus i'r cyfleuster newydd.
Mae'r mynediad hwn i'n tîm digidol yn gam mawr ymlaen i brosiect y CGFn, ac yn dod â ni gam arall yn nes at ddarparu canolfan ganser o safon fyd-eang i gleifion, staff a chymunedau ar draws Cymru.