Neidio i'r prif gynnwy

Mae person y tu ôl i bob achos o C. diff

A woman is sat in a dark room.

16 Mehefin 2026

Gall C. diff achosi niwed difrifol a chael effaith barhaol ar fywydau pobl.

Lansiwyd yr ymgyrch Atal C. diff gan Sue Tranka y Prif Swyddog Nyrsio a Dr Richard Evans, Uwch Ymgynghorydd Meddygol i’r Prif Swyddog Meddygol. Mae'n rhannu straeon go iawn gan bobl yng Nghymru y mae C. diff wedi effeithio ar eu bywydau. Mae eu profiadau yn ein hatgoffa bod person y tu ôl i bob achos, a bod y camau gweithredu a gymerwn bob dydd yn gwneud gwahaniaeth.

Fel rhan o'r ymgyrch, mae Hayley Harrison Jeffreys o Ganolfan Ganser Felindre yn rhannu ei stori bersonol ei hun am ei thad a gafodd C. diff yn ystod misoedd olaf ei fywyd.

Mae Hayley wedi dewis siarad yn agored am ei phrofiad, gan helpu i ddangos effaith wirioneddol C. diff ar ei theulu a chefnogi ymdrechion i leihau heintiau ledled Cymru.

Mae ein camau gweithredu yn bwysig:

  • Golchwch eich dwylo â dŵr a sebon
  • Dylid cynnal y safonau glanhau
  • Defnyddiwch wrthfiotigau yn ddiogel

Mae'r camau gweithredu hyn yn chwarae rhan bwysig wrth amddiffyn cleifion.

Dywedodd Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio, “Mae unigolyn y tu ôl i bob achos o C. diff, ac ar draws GIG Cymru ansawdd ein gofal bob dydd a’n hymarfer clinigol sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr wrth amddiffyn cleifion rhag niwed.”

Dywedodd Dr Richard Evans, Uwch Gynghorydd Meddygol i’r Prif Swyddog Meddygol, “Mae atal C. diff yn gyfrifoldeb a rennir, a gall ymarfer cyson, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys defnyddio gwrthfiotigau’n ddiogel, wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ganlyniadau cleifion.”

Chael mynediad at yr adnoddau o Perfformiad a Gwella GIG Cymru yma.