Neidio i'r prif gynnwy

Llwyddiant ysgubol y Jambori!

Ar ôl 4 wythnos o weithgareddau llawn hwyl a sbri, daeth Jambori Haf Cynaliadwy Canolfan Ganser Felindre i ben ddydd Iau (1 Medi).

O grefftau gyda phryfed i’r teulu cyfan a gweithdy comics gydag artist comics go iawn, i barti ffasiwn cynaliadwy a seremoni cloi gyda cherddoriaeth fyw gan aelodau o'r staff, roedd rhywbeth at ddant pawb!

Ac yntau wedi’i drefnu gan y Tîm Cynaliadwyedd, Canolfan Ganser Felindre Newydd (nVCC) a’r Prosiectau Galluogi Gwaith, cafodd y Jambori ei gynnal mewn tepi anferth a osodwyd o flaen Canolfan Llesiant Staff Noddfa yn arbennig ar gyfer yr ŵyl.

Cafodd gweithgaredd gwahanol ei gynnal bob dydd, ac ymhlith yr uchafbwyntiau roedd digwyddiad arbennig ar gyfer ein Llysgenhadon Ifanc, lle helpon nhw i greu mannau gwyrdd a bywiog ar gyfer ein cleifion a’n hymwelwyr â Felindre.

Rhoddodd ITV Cymru Wales sylw i'r digwyddiad hefyd mewn darn byr ar gyfer eu bwletin nosweithiol.​​​​​

Uchafbwynt arall oedd y diwrnod canlynol, pan gynhaliodd Mike Collins, artist llyfrau comic sydd wedi gweithio gyda mawrion fel Marvel a DC, weithdy arbennig i annog plant ac oedolion i greu eu llyfrau comig a’u cymeriadau eu hunain.

Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, cawsom ni gwmni'r dylanwadwr Rachel Boo, sy'n pleidio achos ffasiwn cynaliadwy a ffasiwn araf i'w 23,000 a mwy o ddilynwyr. Cynhaliodd 'Tickety Boo' (ei henw ar Instagram) sgwrs hynod ddiddorol ynglŷn â ffasiwn cynaliadwy, yn ogystal â chwis a siop cyfnewid dillad.

Hefyd yn rhan o'r ŵyl oedd Ray of Light, a ddefnyddiodd y tipi i gynnal eu sesiynau wythnosol ar gyfer unrhyw un mae canser wedi effeithio arno. Bydd y rhain yn parhau bob wythnos yn y Ganolfan Ganser.