Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr rhagoriaeth genedlaethol i Dîm Parasentesis Canolfan Ganser Felindre

Six members of Velindre’s Paracentesis Service are smiling on stage with their award from the Chief Nursing Officer for Wales.

24 Mai 2023

Mae’r Tîm Parasentesis yng Nghanolfan Ganser Felindre wedi derbyn gwobr genedlaethol am sefydlu eu gwasanaeth rhagorol ac arloesol.

Cyflwynwyd Gwobr flynyddol Prif Swyddog Nyrsio Cymru i'r tîm yng nghynhadledd nyrsio Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, a fynychwyd gan bron i 100 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Viv Cooper, Pennaeth Nyrsio, Ansawdd, Profiad Cleifion a Gofal Integredig, meddai:

"Rwy'n falch iawn o'r tîm am ennill y wobr fawreddog hon. Mae eu gwaith yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol iawn i gleifion. Mae'n rhaid i ni sôn am ein cydweithwyr radioleg sy'n cefnogi'r gwasanaeth hwn dan arweiniad nyrsys hefyd. Diolch i chi am ein holl waith."

Mae Tîm Parasentesis CGF yn cynnwys yr Uwch Ymarferwyr Nyrsio Rachel Bartley, Matthew Walters, Sarah Owen, Helen Way, Lauren Sheppard a'r hyfforddai John Davies, a'r Radiograffwyr Denize Vaile, Jo Ward a Nadia Worsley.

Mynychodd cynrychiolwyr CNO Cymru, Sue Tranka, y gynhadledd yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd i gyflwyno'r wobr. Nod y wobr yw dathlu gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth GIG Cymru a'r rhai sy'n mynd y tu hwnt i'w rolau bob dydd. Mae'n cydnabod cyfraniadau eithriadol sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn, ac yn darparu gofal, arweinyddiaeth ac ysbrydoliaeth ardderchog.
 

Ynghylch y gwasanaeth parasentesis yn CGF

Mewn rhai cleifion â chanser metastatig datblygedig, mae hylif yn gallu casglu yn yr abdomen sydd yn gallu effeithio ar yr ysgyfaint, yr arennau, ac ar organau eraill. Mae hyn yn cael ei alw’n asgites, ac mae'n achosi poen yn yr abdomen, chwyddo, cyfog, chwydu, a symptomau trallodus eraill.

Mae triniaeth parasentesis abdomenol yn golygu mewnosod draen i dynnu hylif o abdomen y claf, a lleddfu symptomau.

Sefydlodd y Tîm Parasentesis yn CGF wasanaeth parasentesis dan arweiniad nyrsys, sydd â nifer o fanteision i gleifion a gwasanaethau gofal iechyd.

Datblygwyd y gwasanaeth gan nyrsys, i reoli a chefnogi cleifion ag asgites difrifol a oedd angen parasentesis brys ac na ellid ei ddarparu ar frys yn eu hysbyty cyffredinol dosbarth lleol, gan arwain at gleifion yn gorfod aros yn yr ysbyty heb fod angen.  

Mae rheoli asgites yn gyflym yn gwella profiad ac ansawdd bywyd cleifion yn sylweddol. Mae'r Tîm Parasentesis yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy i gleifion, ac mae eu cyflawniadau allweddol yn cynnwys:

  • Sefydlu gwaith tîm amlddisgyblaethol rhagorol ymhlith staff nyrsio, radioleg, meddygol a gweinyddol.
  • Mae cleifion yn cael eu trin ar uned ddydd ddynodedig, lle mae staff nyrsio yn gymwys i ofalu am y cleifion hyn ar ôl iddynt gael triniaeth.
  • Datblygu hyder ymhlith staff nyrsio i berfformio ymyrraeth glinigol sydd yn cael ei wneud yn draddodiadol gan feddygon.
  • Hyfforddi Uwch Ymarferwyr Nyrsio a meddygon iau i berfformio parasentesis
  • Darparu addysg i nyrsys, gan gynnwys nyrsys ardal
  • Osgoi derbyniadau i'r ysbyty, a thrwy hynny, gwella profiad, ansawdd bywyd a boddhad cleifion, a lleihau'r risg o gymhlethdodau sy'n gysylltiedig â derbyniadau estynedig i'r ysbyty.
  • Datblygu seilwaith llywodraethu clinigol i gefnogi'r gwaith o ddarparu'r gwasanaeth.
  • Bydd dysgu a hyfforddiant a rennir ar gael i Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau eraill yng Nghymru, i gynorthwyo i sefydlu gwasanaethau parasentesis eraill dan arweiniad nyrsys.