Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr genedlaethol yn cydnabod gwasanaeth canser arloesol dan arweiniad Felindre sy'n gwella diogelwch cleifion

Two women hold an award at an event.

13 Gorffennaf 2026

Mae gwasanaeth canser arloesol, dan arweiniad clinigwyr Gwasanaeth Canser Felindre, wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Gofal Cleifion Coleg Brenhinol y Meddygon 2026.

Cafodd Gwasanaeth Gwenwyndra Imiwnotherapi De Ddwyrain Cymru gydnabyddiaeth yng nghystadleuaeth Gwobr Virginia Mason ar gyfer Diogelwch Cleifion mewn seremoni a gynhaliwyd yn Lerpwl ar 9 Gorffennaf 2026. Mae'r wobr, a dderbyniwyd gan Dr Joanita Ocen, yn dathlu mentrau sydd wedi cael effaith sylweddol ar ddiogelwch ac ansawdd y gofal i gleifion.

Cafodd y gwasanaeth ei gydnabod am ei ddull arloesol o gefnogi cleifion sy'n derbyn triniaeth imiwnotherapi. Mae wedi sicrhau bod y sgil-effeithiau sy'n gysylltiedig â'r driniaeth yn cael eu hadnabod a'u rheoli'n gynharach, ac wedi helpu cleifion i gael mynediad at gymorth arbenigol yn gyflym ac yn ddiogel.

Mae'r hyn a ddechreuodd fel syniad i wella'r gofal i gleifion sy'n profi gwenwyndra sy'n gysylltiedig ag imiwnotherapi wedi datblygu'n wasanaeth rhanbarthol hynod lwyddiannus sy'n cefnogi cleifion ar draws Cymru. Drwy waith amlddisgyblaethol, staff arbenigol ymroddedig, llwybrau gofal arloesol a phartneriaethau cryf ar draws byrddau iechyd, mae'r tîm bellach wedi cefnogi mwy na 1,000 o gleifion sy'n derbyn triniaeth imiwnotherapi.

Sefydlwyd y gwasanaeth mewn ymateb i'r defnydd cynyddol o imiwnotherapi – triniaeth sydd wedi trawsnewid canlyniadau i lawer o bobl sy'n byw gyda chanser, ond sydd hefyd, yn gallu achosi sgil-effeithiau cymhleth sy'n effeithio ar sawl organ a systemau'r corff.

Cyn i'r gwasanaeth gael ei gyflwyno, doedd gan gleifion ddim llwybr clir bob amser at y gofal arbenigol yr oedd ei angen arnynt. Mae'r model presennol yn cynnwys clinigau dan arweiniad nyrsys, tîm amlddisgyblaethol pwrpasol, a llinell gyngor ffôn arbenigol i fedru adnabod a rheoli cymhlethdodau yn gynharach.


Gwneud gwahaniaeth i gleifion a staff

Mae'r effaith ar gleifion wedi bod yn sylweddol. Mae'r gwasanaeth wedi helpu 65% o gleifion i osgoi gorfod aros yn yr ysbyty, ac mae'n rheoli rhwng 60 a 80 o achosion cymhleth ar unrhyw adeg benodol. Mae'r gwasanaeth yn helpu cleifion i gael mynediad at gymorth arbenigol yn gynt, fel bod llawer yn gallu parhau â'u triniaeth yn ddiogel.

Mae'r gwasanaeth hefyd wedi cefnogi gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd ar draws Cymru, gyda 92% o'r staff yn dweud bod ganddynt fwy o hyder wrth reoli sgil-effeithiau imiwnotherapi. Hyd yn hyn, mae'r model wedi arwain at arbedion costau o thua £615,000, drwy leihau derbyniadau brys ac arosiadau yn yr ysbyty.

A man in a white shirt is smiling. Dywedodd Dr Ricky Frazer, Arweinydd Clinigol Gwasanaeth Gwenwyndra Imiwnotherapi De Ddwyrain Cymru: "Rydym yn falch dros ben o weld Gwasanaeth Gwenwyndra Imiwnotherapi De Ddwyrain Cymru yn cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol. Pan sefydlwyd y gwasanaeth, roedd ein nod yn syml: sicrhau bod cleifion sy'n profi sgîl-effeithiau sy'n gysylltiedig ag imiwnotherapi yn gallu cael mynediad at gymorth arbenigol yn gyflym, a derbyn y gofal cywir ar yr amser cywir. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu ymrwymiad cydweithwyr ar draws Cymru sydd wedi gweithio gyda'i gilydd i greu gwasanaeth sy'n gosod diogelwch, profiad a chanlyniadau cleifion wrth ei wraidd.

"Mae’r wobr hon yn dyst hefyd i’r pŵer o gydweithio ac i ymroddiad tîm amlddisgyblaethol go iawn. Hoffem ddiolch i'n hymgynghorwyr, nyrsys clinigol arbenigol, fferyllwyr, timau oncoleg acíwt, arbenigwyr organau, gweinyddwyr, rheolwyr a phartneriaid ar draws Cymru sydd wedi helpu i lunio a datblygu'r gwasanaeth. Yn bwysicaf oll, hoffem ddiolch i'n cleifion. Mae eu profiadau yn parhau i’n hysgogi i arloesi, gwella a darparu’r gofal canser gorau posibl."


Gosod y safon ar gyfer gofal imiwnotherapi

Mae'r gwasanaeth bellach yn cael ei gydnabod fel un o'r prif wasanaethau ar gyfer gwenwyndra imiwnotherapi yn y DU, ac mae ei fodel yn cael ei ddefnyddio gan sefydliadau eraill sy'n ceisio gwella diogelwch a phrofiad cleifion.

Mae'r wobr hefyd yn tynnu sylw at y rôl bwysig o gydweithio wrth ddarparu gofal canser arloesol ar draws Cymru, ac yn atgyfnerthu ymrwymiad Gwasanaeth Canser Felindre i wella canlyniadau a phrofiadau cleifion trwy gyfrwng ymchwil, triniaethau newydd a gwella gwasanaethau.

Dywedodd Dr Anna Olsson-Brown, Cadeirydd Cymdeithas y Meddygon Canser: "Fel arbenigedd, rydym wedi helpu i drawsnewid gofal canser trwy gyfrwng datblygiadau fel imiwnotherapi, ac rydym bellach yn camu mewn i gyfnod newydd cyffrous, lle mae deallusrwydd artiffisial, genomeg a meddygaeth fanwl yn creu cyfleoedd pellach. Mae oncolegwyr meddygol mewn sefyllfa unigryw i arwain y broses o werthuso a mabwysiadu'r triniaethau newydd hyn yn ddiogel trwy gyfrwng treialon clinigol ac ymchwil gydweithredol.

"Mae Cymdeithas y Meddygon Canser yn falch o arwain ein cymuned o oncolegwyr meddygol sy'n hyrwyddo datblygiadau ym maes gofal cleifion, ymchwil ac addysg. Drwy gefnogi cydweithio, datblygu arweinwyr y dyfodol a hyrwyddo arloesedd, rydym yn trawsnewid darganfyddiadau gwyddonol yn fuddion go iawn i gleifion. Mae’r gwobrau hyn yn adlewyrchiad gwych o’r talent, yr uchelgais a’r ymrwymiad ar draws ein proffesiwn."

Dywedodd yr Athro Mumtaz Patel, Llywydd Coleg Brenhinol y Meddygon: “Mae enillwyr heno yn dyst i ymroddiad eithriadol meddygon a'u timau, sy'n dod o hyd i ffyrdd newydd bob dydd o wella bywydau cleifion. O leihau anghydraddoldebau iechyd i harneisio technoleg ddigidol, ac o ganfod clefydau'n gynnar i drawsnewid gofal diwedd oes, mae ehangder ac uchelgais enillwyr eleni yn hollol ysbrydoledig. Mae'r RCP yn falch dros ben o bob un ohonyn nhw.”


Mae Gwasanaeth Canser Felindre yn darparu gofal canser arbenigol i fwy na 1.5 miliwn o bobl ar draws De Ddwyrain Cymru a thu hwnt. Fel rhan o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, mae gwasanaethau’n cael eu darparu trwy fodel ‘prif ganolfan a lloerennau’, gyda Chanolfan Ganser Felindre yn gwasanaethu fel canolfan driniaeth, addysgu ac ymchwil arbenigol ar gyfer oncoleg anlawfeddygol.

Mae Gwasanaeth Canser Felindre yn darparu ystod eang o driniaethau, gan gynnwys cemotherapi, triniaethau gwrth-ganser systemig (SACT), radiotherapi a gofal lliniarol arbenigol. Mae'r gwobrau diweddaraf hyn yn tanlinellu ein hymrwymiad parhaus i ddarparu gofal arloesol o ansawdd uchel, ac i gydweithio gyda phartneriaid i wella canlyniadau i bobl sydd yn cael eu heffeithio gan ganser ar draws Cymru.