Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Canser Felindre yn nodi blwyddyn o ddarparu triniaeth PRRT arbenigol

The radiotherapy signage at Velindre Cancer Service.

27 Gorfennaf 2026

Mae Gwasanaeth Canser Felindre yn dathlu blwyddyn o ddarparu Therapi Radioniwclid Derbynyddion Peptid (PRRT), sef triniaeth arbenigol iawn i gleifion â thiwmorau niwroendocrin (NETs), a dod â gofal yn agosach at y cartref i bobl ledled Cymru.

Ers trin ei glaf cyntaf ym mis Gorffennaf 2025, mae'r gwasanaeth wedi dechrau triniaeth ar gyfer 13 o gleifion, ac mae dau glaf eisoes wedi cwblhau eu cwrs llawn o therapi.

Mae PRRT yn ffurf ddatblygedig ar therapi radioniwclid wedi'i dargedu sy'n darparu ymbelydredd yn uniongyrchol i safleoedd tiwmorau. Mae'r driniaeth yn gweithio trwy ddefnyddio meddyginiaeth ymbelydrol sy'n rhwymo i gelloedd tiwmor niwroendocrin. Mae’n darparu dos o ymbelydredd sy’n eu targedu’n benodol, wrth gyfyngu ar y difrod i feinwe iach o'i gwmpas.

Roedd cyflwyno PRRT yng Ngwasanaeth Canser Felindre yn garreg filltir arwyddocaol i ofal canser yng Nghymru. Mae wedi galluogi cleifion cymwys o dde a chanolbarth Cymru i dderbyn y driniaeth arbenigol hon yn agosach at y cartref, yn hytrach na theithio i Lundain.

Mae Matthew Talboys, Pennaeth Meddygaeth Niwclear, wedi myfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf.


Dod â thriniaeth yn agosach at y cartref

Cyn cyflwyno'r gwasanaeth, roedd cleifion yr oedd angen PRRT arnynt yn teithio i'r Ysbyty Brenhinol Rhydd yn Llundain i gael triniaeth, gan ychwanegu at straen corfforol ac emosiynol eu diagnosis.

Mae datblygu gwasanaeth yng Nghymru wedi helpu i leihau’r baich teithio i gleifion a'u teuluoedd, sy’n golygu bod mwy o bobl yn gallu derbyn gofal arbenigol yn agosach at eu rhwydweithiau cymorth yn ystod eu triniaeth.

Mae'r gwasanaeth wedi'i ddatblygu diolch i gydweithio agos rhwng gwyddonwyr clinigol, technolegwyr, nyrsys, oncolegwyr, fferyllwyr, a thimau cymorth ehangach ar draws Gwasanaeth Canser Felindre.

Roedd angen cryn dipyn o fuddsoddiad, hyfforddiant arbenigol a gwaith datblygu gwasanaethau i sefydlu'r rhaglen, gan gynnwys ymweliadau â chanolfannau ledled y DU i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau yr oedd eu hangen i ddarparu triniaeth yn ddiogel yng Nghymru.


Straeon cleifion yn tynnu sylw at yr effaith yn y byd go iawn 

I lawer, mae mynediad at PRRT yn Felindre wedi bod yn drawsnewidiol. Cafodd Caroline, 58 oed, o Bort Talbot, ddiagnosis o ganser niwroendocrin a fu’n effeithio ar ei choluddyn, gyda thiwmorau eilaidd yn yr afu.

Two people are smiling in the sunshine. Cyn i’r driniaeth fod ar gael yn Felindre, roedd rhaid i Caroline deithio i Lundain i gael sgan arbenigol – sef taith a oedd yn golygu cost, cynllunio a phryder sylweddol.

“Gwnaeth gwybod bod modd ifi gael fy nhriniaeth yn agosach at y cartref wahaniaeth enfawr,” meddai. “Roedd teithio i Lundain yn frawychus ac yn ddrud. Roedd cael y driniaeth yn lleol yn rhoi llawer mwy o dawelwch meddwl ifi.”

Mae Caroline bellach wedi cwblhau ei chwrs llawn o PRRT yn Felindre, ac mae wedi ymateb yn dda iawn i'r driniaeth. Dywedodd fod ei gofal wedi bod yn rhagorol, er gwaethaf y ffaith bod y driniaeth newydd gael ei chyflwyno.

“Roedd y staff yn hollol anhygoel,” meddai hi. “Er ei bod hi’n newydd, roeddwn i’n teimlo’n gwbl ddiogel a bod pobl yn fy nghefnogi drwy gydol y broses.”

Canfu Caroline fod PRRT yn llawer haws i ymdopi â hi o'i chymharu â thriniaethau eraill, gyda’r sgil-effeithiau lleiaf posibl ac ansawdd bywyd gwell yn ystod y driniaeth.

“Roeddwn i’n gallu parhau â’r rhan fwyaf o fy mywyd arferol,” meddai. Mae Caroline yn gobeithio y bydd ei phrofiad yn tawelu meddyliau pobl eraill: “Peidiwch ag ofni’r driniaeth. Mae'n syml, ac rydych chi mewn dwylo medrus iawn yn Felindre.”

Two people are smiling in the sunshine. One is holding a bicycle. Cafodd Alan Barnett, 82, ddiagnosis o ganser niwroendocrin ym mis Gorffennaf 2024. Dechreuodd driniaeth gyda chemotherapi i ddechrau, ond yn anffodus, ni welodd fawr o gynnydd.

Pan ddywedwyd wrtho y gallai PRRT fod "yr unig ffordd allan", hysbyswyd Alan y byddai hyn fel arfer yn golygu teithio 150 milltir i Lundain i gael triniaeth. Fodd bynnag, roedd hyn tua'r adeg y dechreuodd Gwasanaeth Canser Felindre gynnig PRRT, sy'n golygu y gallai Alan dderbyn ei ofal yn llawer agosach at ei gartref yn Sir Fynwy.

"Roedd yn deimlad gwirioneddol o ryddhad nad oedd rhaid i mi deithio i ganol Llundain i gael fy nhriniaeth," meddai Alan. "Mae'n bell o ble rwy'n byw, allwch chi ddim parcio, ac nid yw'n hawdd teithio fel claf ymbelydrol."

Mae Alan bellach wedi cwblhau tri o'i bedwar cylch o PRRT yn Felindre, ac mae'n dweud iddo ddechrau gweld manteision go iawn ar ôl yr ail gylch. Drwy gydol ei driniaeth, teimlai ei fod wedi cael cefnogaeth a gwybodaeth dda.

"Rhannodd y tîm meddygaeth niwclear wybodaeth gyda fi drwy gydol y broses. Er ifi fod yn bryderus ar y dechrau, cafodd popeth ei egluro'n glir ac yn drylwyr, a helpodd hynny i dawelu fy meddwl. Roedd pawb, o staff y ward a'r ymgynghorydd i'r staff arlwyo, mor wybodus, proffesiynol a gofalus."

I Alan, mae gallu cael mynediad at y driniaeth arbenigol hon yn agosach at ei gartref wedi gwneud gwahaniaeth ystyrlon ar adeg bwysig yn ei ofal.


Adeiladu ar gyfer y dyfodol

Mae datblygu’r gwasanaeth PRRT hefyd wedi helpu i gryfhau gallu Felindre ym maes radiotherapi moleciwlaidd. Mae hyn yn ei dro wedi creu cyfleoedd i ehangu triniaethau ac ymchwil arbenigol ymhellach yn y blynyddoedd i ddod.

A woman is smiling. Dywedodd Dr Carys Morgan, Cyfarwyddwr Meddygol Gwasanaeth Canser Felindre: "Mae wedi bod yn wych datblygu'r gwasanaeth PRRT yn Felindre. Yn bwysicaf oll, mae wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion trwy ganiatáu iddynt dderbyn triniaeth arbenigol yn agosach at y cartref.

"Rydym wedi cael adborth gwych gan gleifion sydd wedi dweud wrthym gymaint yn haws y mae wedi bod i gael mynediad at ofal yng Nghymru, a dyna sydd bwysicaf."

"Mae'r gwasanaeth hefyd wedi bod yn enghraifft wych o weithio amlddisgyblaethol. Mae cydweithwyr o lawer o grwpiau proffesiynol gwahanol wedi dod ynghyd i ddatblygu sgiliau newydd a chyflwyno rhywbeth gwirioneddol arloesol i gleifion.

"Mae'n ein rhoi mewn sefyllfa gref ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol ym maes radiotherapi moleciwlaidd, gan gynnwys treialon clinigol a thriniaethau newydd, sy’n sicrhau y gall cleifion ledled Cymru barhau i elwa o ddatblygiadau ym maes gofal canser."


Mae'r garreg filltir yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus Gwasanaeth Canser Felindre i ddarparu gofal arloesol sy'n canolbwyntio ar y claf a gwella mynediad at driniaethau canser arbenigol i bobl ledled Cymru.