19 Rhagfyr 2026
Mae rhaglen dan arweiniad Felindre, Advancing Radiotherapy Cymru (ARC), yn helpu i wella gofal canser ar draws Cymru drwy hybu datblygiadau ym maes radiotherapi a gwella canlyniadau a phrofiadau cleifion.
Mae ARC yn gydweithrediad cenedlaethol sy'n dod â byrddau iechyd, clinigwyr a phartneriaid o bob rhan o Gymru at ei gilydd i gyflwyno technolegau newydd, ehangu mynediad at dechnegau triniaeth uwch, a chefnogi gwelliant parhaus i wasanaethau. Ers ei lansio ym mis Mehefin 2023, mae'r rhaglen wedi cefnogi 17 o brosiectau ar draws Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gan ddarparu manteision clir i gleifion sy'n derbyn triniaeth radiotherapi.
Gyda mwy na 4,000 o atgyfeiriadau radiotherapi newydd bob blwyddyn yn Felindre yn unig, mae gan y rhaglen y potensial i gael effaith gadarnhaol ar filoedd o bobl ar draws Cymru. Drwy fuddsoddi mewn arloesedd, ymchwil a datblygu'r gweithlu, mae ARC yn helpu i sicrhau bod gan gleifion fynediad at y datblygiadau diweddaraf mewn radiotherapi, gan gefnogi gwasanaethau canser mwy effeithlon, cynaliadwy a chyfartal ar gyfer y dyfodol.
Mae ARC wedi cael ei gydnabod yn genedlaethol am ei ymrwymiad i gydweithio, ac wedi ennill y Wobr Arloesi a Gwella yn y categori Working Together Achievement yng Ngwobrau Moondance Cymru.
Cyflwynwyd y wobr am y fenter Adeiladu Gweithlu Radiotherapi Aml-broffesiynol, sy'n dwyn ynghyd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Advancing Radiotherapy Cymru (ARC) ac Academi Oncoleg Felindre.
Mae'r bartneriaeth yn mynd i'r afael â heriau'r gweithlu a allai effeithio ar gapasiti a mynediad at driniaeth radiotherapi. Drwy ailgynllunio rolau a chefnogi ffyrdd mwy hyblyg o weithio, mae'r rhaglen yn helpu i greu gweithlu cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn cefnogi mynediad cyflymach at driniaeth, yn lleihau pwysau ar wasanaethau, ac yn gwella profiad gofal canser ar draws Cymru.
Dywedodd Dr James Powell, Arweinydd Clinigol ARC "Crëwyd Academi ARC yn 2023 i gefnogi ac ariannu mentrau datblygu radiotherapi ar draws Cymru. Felly roedd yn wych gweld un o'n sefydliadau a ariannwyd gan ARC yn derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol yn y Gwobrau Moondance diweddar, ac yn cael eu henwebu yn y categori Working Together Achievement. Mae'r cyflawniad hwn yn adlewyrchu'r dull cydweithredol rhagorol sydd wrth wraidd y prosiect, ac yn enghraifft o'r bartneriaeth a'r cydweithio ar draws y gymuned radiotherapi y mae ARC yn ceisio ei feithrin."
"Hyd yn hyn, mae ARC wedi cefnogi amrywiaeth o brosiectau ar draws Cymru sy’n canolbwyntio ar ddatblygu’r gweithlu, arloesi, ymchwil radiotherapi dan arweiniad clinigol, a datblygu radiotherapi stereotactig. Mae hyrwyddo cydweithio ar draws y meysydd blaenoriaeth hyn wedi bod yn amcan allweddol i ARC, ac mae'n un o'i gyflawniadau mwyaf arwyddocaol. Wrth i'r prosiectau hyn fynd rhagddynt, rydym yn gyffrous i weld eu canlyniadau a'u heffaith ehangach, ac rydym yn edrych ymlaen at yr ymchwil, yr arloesedd a'r gwelliannau i wasanaethau y bydd cyllid ARC yn eu helpu i'w cyflawni ar gyfer cleifion a gwasanaethau radiotherapi ar draws Cymru yn y blynyddoedd i ddod.
Mae ARC yn rhaglen pum mlynedd sy'n rhedeg o 2023–2028. Mae’r rhaglen yn derbyn cyllid cyfatebol gan Elusen Canser Felindre a’r Sefydliad Moondance.
Wrth edrych tua’r dyfodol, bydd yr Academi ARC yn parhau i gryfhau gwasanaethau radiotherapi ar draws Cymru drwy ysgogi arloesedd, ehangu cyfleoedd ymchwil, a datblygu gweithlu medrus a chynaliadwy. Drwy fuddsoddi mewn gwella gwasanaethau clinigol, addysg a hyfforddiant, datblygu'r gweithlu, ac ymchwil radiotherapi o'r radd flaenaf, mae'r Academi yn anelu at sicrhau bod cleifion ar draws Cymru yn elwa o'r datblygiadau diweddaraf mewn triniaeth, mynediad gwell at ofal, a chanlyniadau gwell i genedlaethau i ddod.
Darganfod mwy am raglen ARC, gweld ein llenyddiaeth am y project yma.
Cyflwynir ARC mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.