8 Medi 2026
Mae'n braf gennym gadarnhau bod Cynllun Tymor Canolig Integredig Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ar gyfer 2026-29 wedi cael sêl bendith Llywodraeth Cymru.
Mae'r Cynllun yn nodi ein blaenoriaethau a'n huchelgeisiau ar gyfer y tair blynedd nesaf, gan amlinellu sut byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel, gwella canlyniadau a chefnogi ein pobl wrth ddiwallu anghenion y boblogaeth y gwasanaethwn.
Dysgwch fwy am ein cyfeiriad strategol a'r ymrwymiadau a fydd yn llunio ein gwaith dros y blynyddoedd nesaf.