28 Ebrill 2026
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi dyfarnu ei Chymrodoriaeth i ymgynghorydd yng Ngwasanaeth Canser Felindre.
Mae Dr Sonali Dasgupta, sy'n ymgynghorydd oncoleg feddygol ac yn arweinydd ar ganser o darddiad sylfaenol anhysbys (CUP) ar gyfer Cymru gyfan, ymhlith 44 o Gymrodyr newydd. Mae hynny'n cydnabod dyfnder a lled yr ymchwil, yr arloesedd, yr arweinyddiaeth a'r creadigrwydd sydd yng Nghymru.
Gyda dros hanner (52%) o'i Chymrodyr newydd yn fenywod, mae'r Gymdeithas hefyd yn cyrraedd y garreg filltir o ethol y gyfran uchaf o fenywod yn ei hanes.
Mae Sonali wedi bod yn Felindre ers 2018 ac, yn ystod y cyfnod hwn, mae wedi sefydlu Gwasanaeth Canser o Darddiad Sylfaenol Anhysbys (CUP) De-ddwyrain Cymru. Mae hi'n Arweinydd Clinigol arno hefyd.
Meddai Dr Dasgupta:
"Mae'n anrhydedd i mi gael fy newis yn Gymrawd o grŵp elitaidd o weithwyr proffesiynol uchelgeisiol Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
"Bydd cydweithio â chymrodyr y Gymdeithas yn helpu i lunio'r genhedlaeth nesaf o ymchwil ac arloesi yng Nghymru, dylanwadu ar lunwyr polisi wrth fynd i'r afael â'r prif anghenion sydd heb eu diwallu mewn gofal iechyd a'r gymuned ehangach, yn ogystal â hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant o fewn mandadau'r llywodraeth."
“Yn y pen draw, fy nod yw rhoi sylw i Gymru, Ymddiriedolaeth Prifysgol GIG Felindre a’r Gymdeithas fel esiamplau rhyngwladol o gyflawniad academaidd a chyfraniad cymdeithasol.”
Daw Cymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru o bob cwr o'r celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau, ac eleni maent yn adlewyrchu pwysigrwydd bywyd diwylliannol bywiog i gymdeithas Cymru.
Fel Academi Genedlaethol Cymru, mae'r Gymdeithas yn harneisio arbenigedd, profiad a chysylltiadau amlddisgyblaethol ei Chymrodoriaeth i hyrwyddo a datblygu cymuned ymchwil ac arloesi Cymru, ac i hybu'r defnydd o ymchwil ragorol ac amrywiol i ddatrys yr heriau a wynebir yng Nghymru ac ar draws y byd.
Meddai Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru:
“Croesawu ein Cymrodyr newydd i’r Gymdeithas yw un o uchafbwyntiau blwyddyn y Gymdeithas. Edrychwn ymlaen at ddod â’u profiad a’u gwybodaeth i’n gwaith ar bolisi a datblygu ymchwilwyr.
“Mae'n braf iawn fod ein gwaith ar ecwiti, amrywiaeth a chynhwysiant yn dechrau gweld y Gymrodoriaeth yn cynnwys mwyfwy o fenywod. Mae hyn wedi dod yn sgil ymdrechion cydlynol i ymgorffori ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob tro.”
Ymhlith y Cymrodyr presennol sy'n dod o Wasanaeth Canser Felindre mae'r Athro Mark Taubert, Cyfarwyddwr Clinigol Meddygaeth Liniarol, ac Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol, Dr Seema Arif, yn ogystal â'r Athro Andrew Westwell, sy'n Aelod Annibynnol ar Fwrdd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.