Eleni, ar Ddiwrnod Ymchwil Canser y Byd, rydym yn tynnu sylw at yr ymchwil anhygoel sy'n digwydd ar draws Felindre ac yn dathlu'r cleifion, yr ymchwilwyr a'r staff sy'n helpu i lunio dyfodol gofal canser.
Mae gofal canser yn esblygu'n gyflym. Mae mwy o bobl yn cael diagnosis o ganser bob blwyddyn, mae mwy o bobl yn byw gyda chanser a thu hwnt iddo, ac mae datblygiadau mewn imiwnotherapi, therapïau wedi'u targedu a genomeg yn trawsnewid sut mae canser yn cael ei ddiagnosio, ei drin a'i reoli.
Yn Felindre, mae ymchwil yn ganolog i'n cenhadaeth. Ein huchelgais yw bod yn arweinydd mewn ymchwil, datblygu ac arloesi, a sicrhau bod gan gleifion fynediad at y datblygiadau diweddaraf mewn triniaeth canser ac ar yr un pryd, helpu i wella canlyniadau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Drwy fuddsoddi mewn ymchwil arloesol a threialon clinigol, rydym yn gallu cynnig mynediad i gleifion at driniaethau newydd ac arloesol sydd â'r potensial i wella goroesiad, gwella ansawdd bywyd a llunio dyfodol gofal canser.
Rydym yn falch o fod yn sefydliad sy'n weithgar ym maes ymchwil. Heddiw, ar draws Felindre, mae'r canlynol yn mynd ymlaen:
Tu ôl i'r ffigurau hyn, mae timau eithriadol o glinigwyr, nyrsys, ymchwilwyr, fferyllwyr, arbenigwyr data, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a staff cymorth, y mae eu harbenigedd yn ein galluogi i ddarparu ymchwil o'r radd flaenaf a datblygu gofal canser, nid yn unig ar draws Cymru ond ar draws y byd.
Ar Ddiwrnod Ymchwil Canser y Byd, hoffem ddiolch i bob aelod o staff sy'n ymwneud ag ymchwil ar draws Felindre am eu hymroddiad, eu harbenigedd a'u hymrwymiad i wella canlyniadau i gleifion.
Mae ymchwil yn newid bywydau
Mae ymchwil yn newid bywydau. Ond nid yw’n gallu digwydd heb y cleifion sy'n ei wneud yn bosibl.
Mae pob claf sy'n dewis cymryd rhan mewn treial clinigol neu astudiaeth ymchwil yn chwarae rhan hanfodol mewn hyrwyddo ein dealltwriaeth o ganser. Drwy gymryd rhan mewn ymchwil, mae cleifion yn gwneud llawer mwy na chael mynediad at driniaethau arloesol a allai fod o fudd i'w gofal eu hunain. Maen nhw'n helpu ymchwilwyr i ddarganfod ffyrdd gwell o atal, diagnosio a thrin canser ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae eu cyfraniad yn creu etifeddiaeth barhaol. Mae pob claf sy'n cymryd rhan mewn ymchwil yn helpu i lunio dyfodol gofal canser, ac yn dod â gobaith i eraill ac yn helpu i sicrhau y gall mwy o bobl fyw bywydau hirach ac iachach ar ôl cael diagnosis o ganser.
Heddiw, rydym hefyd eisiau dathlu a diolch i bob claf sydd wedi cefnogi ymchwil yn Felindre. Mae eich dewrder, eich haelioni a'ch parodrwydd i fod yn rhan o rywbeth mwy yn helpu i drawsnewid gofal canser ar gyfer cenedlaethau i ddod.
|
|
Lleisiau Cleifion
Efallai mai profiadau'r cleifion a'r teuluoedd sydd wedi dewis cymryd rhan sydd yn adlewyrchu effaith ymchwil orau.
"Mae cael diagnosis o ganser terfynol yn rhywbeth sy'n anodd iawn i'w dderbyn, ac mae'n daith sy'n dod â llawer o emosiynau ac ansicrwydd. Fodd bynnag, mae cael y cyfle i gymryd rhan yn y treial clinigol cyfnod cynnar yn Felindre wedi rhoi rhywbeth sy'n bwysig dros ben i mi, sef gobaith."
Dywedodd cyfranogwr arall:
"Mae’r treial wedi bod yn bleser. Mae popeth wedi cael ei wneud yn haws oherwydd eich bod chi gyd y criw o angylion mwyaf cefnogol, gofalgar, rhyfeddol a charedig y gallwn i fod wedi gofyn amdanynt. Rwy'n mawr obeithio y bydd fy rhan yn y treial yn mynd tuag at helpu pobl mewn sefyllfa debyg i fy un i, nawr ac yn y dyfodol."
Myfyriodd aelod o deulu cyfranogwr treial hefyd ar y gwahaniaeth a wnaeth ymchwil a gofal tosturiol i'w hanwylyd:
"Roedd cymryd rhan yn y treial yn golygu'r byd iddo, ac roedd cwrdd â chi gyd yn uchafbwynt yn ystod misoedd olaf ei fywyd. Rwyf eisiau diolch i chi gyd am ofalu mor dda amdanom ni'n dau. Byddaf yn eich cofio chi gyd am byth."
Mae'r straeon hyn yn ein hatgoffa ni bod ymchwil yn ymwneud â mwy na data a darganfyddiadau. Mae'n ymwneud â phobl, gobaith ac ynghylch creu canlyniadau gwell i'r rhai yr effeithir arnynt gan ganser.
Edrych tua’r Dyfodol
Wrth wraidd y strategaeth honno, mae ymrwymiad i drawsnewid diwylliant ein sefydliad, ac i greu amgylchedd lle mae gan bob claf, aelod o'r teulu ac aelod o staff sydd eisiau cymryd rhan mewn ymchwil y cyfle i wneud hynny.
Wrth i ni gyrraedd pwynt hanner ffordd ein strategaeth yn 2026, rydym yn falch o'r cynnydd sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn. Dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi cyflawni’r canlynol:
Mae'r cyflawniadau hyn yn cynrychioli llawer mwy na niferoedd. Maen nhw’n adlewyrchu miloedd o ryngweithiadau â chleifion, darganfyddiadau arloesol, a chyfleoedd i wella gofal canser nawr ac yn y dyfodol.
Mae hon yn flwyddyn nodedig i Felindre, wrth i ni ddathlu 70 mlynedd ers sefydlu Gwasanaeth Canser Felindre, a pharatoi i agor y Ganolfan Canser Felindre newydd o'r radd flaenaf yn nhymor y Gwanwyn 2027.
|
|
|
Bydd ymchwil ac arloesedd wrth wraidd y bennod nesaf hon.
Yn ganolog i'n huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol mae Velindre Collaborative, sef porth ar gyfer cydweithio, gweithredu a gwella sy'n canolbwyntio ar ganser ar draws Cymru. Bydd y porth hwn yn dwyn ynghyd arbenigedd ym meysydd gofal iechyd, y byd academaidd, y llywodraeth, diwydiant a'r trydydd sector i sicrhau bod ymchwil, arloesedd a dysgu yn cael eu trosi'n welliannau ystyrlon a chynaliadwy mewn gofal a chanlyniadau canser.
Drwy gryfhau partneriaethau a chyflymu arloesedd, bydd y porth Velindre Collaborative yn helpu i sicrhau bod cleifion ar draws Cymru yn gallu cael mynediad at y datblygiadau diweddaraf mewn atal, diagnosio a thrin canser.
Dathlu 70 mlynedd ers sefydlu Gwasanaeth Canser Felindre
Mae Gwasanaeth Canser Felindre yn darparu gofal canser arbenigol i fwy na 1.5 miliwn o bobl ar draws de ddwyrain Cymru a thu hwnt. Rydym wedi bod yn gwella bywydau trwy gyfrwng gofal, arloesedd, ymchwil a thrugaredd o'r radd flaenaf am 70 mlynedd. Wrth i ni ddathlu'r pen-blwydd carreg filltir hon, rydym yn edrych yn ôl ar ein hanes balch ac ar yr un pryd, yn edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous, gan gynnwys symud i’r Ganolfan Ganser Felindre newydd. Gyda'n gilydd, rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i wella canlyniadau i bobl yr effeithir arnynt gan ganser ar draws Cymru.
Darllenwch ein hymgyrch pen-blwydd yn 70 oed a rhannwch eich stori.
Oeddech chi'n gwybod bod Elusen Felindre yn buddsoddi dros £1 miliwn bob blwyddyn mewn treialon clinigol ac ymchwil? Helpwch ni i barhau i lunio dyfodol gofal canser yng Nghymru, gwnewch gyfraniad yma.