Neidio i'r prif gynnwy

Dydd Mercher 26 Ebrill yw Diwrnod Cenedlaethol y Nyrsys Clinigol Arbenigol Canser

21 Ebrill 2023 

Uwch-nyrsys ydyn nhw sydd wedi ennill cymwysterau ôl-raddedig a magu gwybodaeth arbenigol i roi cymorth i gleifion canser. Maen nhw’n cynnal clinigau rheolaidd i helpu cleifion trwy eu diagnosis o ganser, eu triniaeth, ac weithiau eu gofal dilynol flynyddoedd yn ddiweddarach.

  • Maen nhw’n arbenigo ar ganser ac fel arfer yn ymdrin ag un math o ganser yn unig, oherwydd cymhlethdod yr afiechyd a’r driniaeth sydd ynghlwm iddo.
  • Nhw yw gweithiwr allweddol y cleifion ac maen nhw’n darparu gwybodaeth ynglŷn â’u math o ganser, opsiynau o ran triniaeth a sgil-effeithiau posibl.
  • Maen nhw’n cynnig cymorth ymarferol ac emosiynol ac yn cynghori cleifion.
  •  Yn aml, byddan nhw’n cynnal clinigau dan arweiniad nyrsys ac yn gweithio gyda’r tîm aml-broffesiynol i roi cymorth ar gyfer triniaeth a symptomau
  • Maen nhw’n gweithio gyda chleifion sydd wedi cael eu derbyn i’r ysbyty’n sâl oherwydd eu canser neu’r driniaeth ar ei gyfer – yr enw ar hyn yw’r Gwasanaeth Oncoleg Acíwt
  • Maen nhw’n rhoi cymorth i gleifion pan na fydd modd gwella o’u canser – yr enw ar hyn yw’r gwasanaeth gofal lliniarol

Nod Diwrnod Cenedlaethol y Nyrsys Clinigol Arbenigol Canser yw rhoi sylw i'r rôl ac annog darpar staff nyrsio a staff nyrsio presennol i ystyried arbenigo ar ofal canser.