Neidio i'r prif gynnwy

DEG enwebiad am Wobr Canser Moondance i Felindre!

24 Ebrill 2026

Mae rhestr fer Gwobrau Canser Moondance eleni wedi cael ei chyhoeddi, ac mae cydweithwyr, timau a gwasanaethau Gwasanaeth Canser Felindre wedi cael eu henwebu cynifer â deg gwaith!

Y nod yw cydnabod cyraeddiadau pobl a thimau sy'n gweithio ar draws pob rhan o ganfod, diagnosio a llwybrau triniaeth canser; ac arddangos yr arloesedd a'r gwelliant sy'n digwydd ledled y wlad.

Cyrhaeddiad – Gwell profiad i gleifion
Gwasanaeth Therapi Radioniwclid Derbynyddion Peptid (PRRT)

Cyrhaeddiad – Cydweithio
Adeiladu Gweithlu Radiotherapi Aml-broffesiynol
Mewn cydweithrediad ag AaGIC, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Cyrhaeddiad – Cydweithio
Yr Allwedd Rhagfynegol
Mewn cydweithrediad â BIP Bae Abertawe a Pherfformiad a Gwella GIG Cymru

Cyrhaeddiad – Cydweithio â phartneriaid
BATRI (Menter Ymchwil Tiwmor yr Ymennydd)
Mewn cydweithrediad ag Ymchwil Canser Cymru a Phrifysgol Caerdydd

Cyrhaeddiad – Cyfranogiad a chynhwysiant y cleifion a’r cyhoedd
Adnodd Fideo Deiet Canser y Fron a Gyd-gynhyrchwyd
Mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Cymorth Canser Macmillan, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Cyrhaeddiad – Cyfranogiad a chynhwysiant y cleifion a’r cyhoedd
GastroSCOPE – Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd
Mewn cydweithrediad â BIP Bae Abertawe a'r Ganolfan ar gyfer Ymchwil Treialon

Arloesi a gwella – Triniaeth canser
Gwasanaeth Radiotherapi Lliniarol Cydffurfiol

Arloesi a gwella – Triniaeth canser
Tîm Cynradd Canser Anhysbys De-ddwyrain Cymru
Mewn cydweithrediad â BIP Caerdydd a'r Fro, BIP Cwm Taf Morganwg, BIP Aneurin Bevan, Perfformiad a Gwella GIG Cymru, Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan, Canolfan Ymchwil Treialon – Prifysgol Caerdydd, Pwyllgor Comisiynu ar y Cyd GIG Cymru a Chanolfan Ymchwil Canser Cymru

Arloesi a gwella – Gweithlu canser
Gwasanaeth Sgil-effeithiau Imiwno-oncoleg De-ddwyrain Cymru

Rhagoriaeth – Meddygol
Dr Ricky Frazer

 

Llongyfarchiadau i'r holl enwebeion!

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn digwyddiad dathlu arbennig ddydd Iau 11 Mehefin 2026 yn DEPOT, Caerdydd.