Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad ynghylch fandaliaeth ar hen safle Ysbyty'r Eglwys Newyd

29 Gorffennaf 2026

Rydym yn ymwybodol o achosion difrifol o fandaliaeth ar safle hen Ysbyty'r Eglwys Newydd, gan gynnwys graffiti hiliol a sarhaus.

Mae'r graffiti yn gwbl annerbyniol, ac nid yw'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad na'n cymunedau. Cafodd trefniadau eu gwneud i gael gwared ar y graffiti cyn gynted â phosibl, unwaith y cafodd yr Ymddiriedolaeth ei gwneud yn ymwybodol am hyn.

Mae'r achosion hyn o fandaliaeth wedi cael eu hadrodd i Heddlu De Cymru hefyd, ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid perthnasol i sicrhau eu bod yn cael eu trin yn briodol.

Daw'r fandaliaeth ar ôl i'r Ymddiriedolaeth osod ffensys ar ein tir yn ddiweddar ar gais rhanddeiliaid allweddol ar hen safle Ysbyty’r Eglwys Newydd, yn dilyn achosion blaenorol o fandaliaeth. Rydym yn sylweddoli bod hyn wedi effeithio ar fynediad at lwybrau troed anffurfiol, ond fel tirfeddiannwr cyfrifol, mae gennym ddyletswydd i ddiogelu’r safle, diogelu aelodau'r cyhoedd, a helpu i atal achosion pellach o dresmasu, ymddygiad gwrthgymdeithasol a difrod i adeiladau hanesyddol arwyddocaol.

Daeth Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn berchennog cyfreithiol adeiladau Ysbyty’r Eglwys Newydd a'r tir cyfagos ym mis Tachwedd 2024, yn sgil trosglwyddo o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae'r safle o bwys hanesyddol ac emosiynol i lawer yn ein cymuned, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth, sydd wedi bod yn gymydog iddo ers i Ganolfan Ganser Felindre agor ym 1956.

Mae proses ar y gweill ar hyn o bryd i werthu'r safle, ac mae'r Ymddiriedolaeth yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddiogelu'r safle.