Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi Prif Weithredwr newydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

29 Mehefin 2026

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn falch o gyhoeddi bod Carl James wedi’i benodi’n Brif Swyddog Gweithredol (Prif Weithredwr) parhaol newydd.

Carl yw’r Prif Weithredwr Dros Dro ar hyn o bryd ac mae wedi gweithio i’r Ymddiriedolaeth ers 2013.

Mae ganddo hanes cryf o weithio yn y sector cyhoeddus mewn awdurdodau lleol, gwasanaethau brys a Llywodraeth Cymru, gan arwain newid i ddarparu gwasanaethau gwell. Yn ystod ei gyfnod yn Felindre, mae Carl wedi bod yn gyfrifol am gynllunio strategol, trawsnewid gwasanaethau, ystâd a phrosiectau cyfalaf mawr, rheoli perfformiad a chynaliadwyedd. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer prosiect Canolfan Ganser newydd Felindre.

Mae gan Carl raddau mewn daearyddiaeth wleidyddol a gradd Meistr mewn Polisi Amgylcheddol a’r Gyfraith, Rheoli Adnoddau Dynol Strategol, a gradd MBA mewn Rheoli Busnes. Mae’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda’i wraig a’i deulu, ac mae ganddo angerdd dros chwaraeon gan fwynhau rygbi, criced, pêl-droed, beicio a sboncen, yn ogystal â chefnogi achosion elusennol. Hyd yma, mae wedi codi £25,000 ar gyfer Elusen Ganser Felindre.

Dywedodd Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Sara Moseley: “Rydym yn falch iawn bod Carl wedi’i benodi i swydd y Prif Weithredwr. Mae hon yn sefydliad sydd â synnwyr cryf o bwrpas ac uchelgais glir ar gyfer y dyfodol, ac rydym yn hyderus y bydd yn cyflawni ei waith yn unol â’n gwerthoedd a’n diwylliant sefydliadol. Bydd arweinyddiaeth Carl yn allweddol wrth inni barhau i adeiladu ar ein cryfderau, arloesi a darparu’r gorau oll i’r bobl a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”

Daw’r penodiad yn dilyn proses recriwtio drylwyr a hynod gystadleuol, gyda chefnogaeth ymgynghoriaeth arbenigol ar chwilio am uwch-swyddogion. Denodd y broses amrywiaeth gref o ymgeiswyr o bob rhan o’r DU a thu hwnt, ac roedd yn cynnwys rhaglen gynhwysfawr o asesu a chyfweliadau yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol. Sicrhaodd y dull hwn benodi arweinydd o safon uchel gyda’r sgiliau, y profiad a’r gwerthoedd i arwain Felindre i’w gyfnod nesaf.

Dywedodd Carl: “Rwy’n teimlo’n anrhydeddus i fod yn arwain yr Ymddiriedolaeth ar adeg mor bwysig i’r sefydliad, sy’n cael ei gydnabod yn eang am ansawdd y gwasanaethau arbenigol a ddarperir ganddo, ei synnwyr cryf o bwrpas, a’r gwahaniaeth y mae’n ei wneud i bobl ledled Cymru. Wrth edrych ymlaen, mae’r cyfle’n sylweddol. Rydym mewn sefyllfa dda i ymestyn ein heffaith a chwarae rôl hyd yn oed fwy wrth ddarparu gofal o ansawdd uchel a’r canlyniadau gorau posibl i gleifion ledled Cymru. Rwy’n falch o barhau i weithio ochr yn ochr â’n staff rhagorol, Byrddau Iechyd Lleol a rhanddeiliaid wrth i ni lunio cam nesaf datblygiad yr Ymddiriedolaeth a chyfrannu at gyfeiriad y dyfodol i GIG Cymru.”