Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi Adroddiad Gweithdy Cymunedol Ysbyty'r Eglwys Newydd

Dydy'r cynnwys hwn ddim ar gael yn Gymraeg yn anffodus. Gweler y fersiwn Saesneg.

Rydym yn falch o gyhoeddi'r adroddiad o'n gweithdai cymunedol diweddar ar ddyfodol safle Ysbyty’r Eglwys Newydd.

Daeth y gweithdai ag aelodau’r gymuned at ei gilydd i rannu syniadau a safbwyntiau ar sut y gallai’r safle fod o fudd i genedlaethau’r dyfodol fel rhan o’r broses barhaus i werthu’r safle.

Roedd y sesiynau'n rhan o ymrwymiad parhaus Felindre i ymgysylltu'n agored wrth i gynlluniau ar gyfer y safle barhau i ddatblygu.

Mae'r adroddiad a hwyluswyd yn annibynnol, yn crynhoi'r themâu allweddol ac adborth gan gyfranogwyr.

Bydd hyn yn chwarae rhan bwysig wrth lywio camau nesaf y broses, a bydd hefyd yn cael ei rannu gyda phartïon â diddordeb wrth i'r gwaith fynd rhagddo.

Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu cyfraniadau gwerthfawr.

Mae Felindre yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithredu fel tirfeddiannwr cyfrifol, ac i sicrhau bod y gymuned yn parhau i gael gwybodaeth a chael ei chynnwys. Bydd cyfleoedd pellach i ymgysylltu wrth i'r gwaith hwn symud ymlaen.

Gallwch ddarllen yr adroddiad yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch: contact.velindre@wales.nhs.uk