Cyfarfod cyhoeddus Bwrdd yr Ymddiriedolaeth | 26 Tachwedd 2026

16 Tachwedd 2026

Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cynnal ei chyfarfod o Fwrdd yr Ymddiriedolaeth yn gyhoeddus ar-lein ddydd Iau 26 Tachwedd 2026.

Bydd y cyhoedd yn gallu gwylio'r cyfarfod ar Microsoft Teams, y platfform fideo-gynadledda sydd ar gael yn eang.

Gallwch weld y papurau a chofrestru eich diddordeb i fynychu'r cyfarfod nawr.

Fel aelod o'r cyhoedd, gallwch fynychu'r cyfarfod fel arsylwr. Mae hynny'n golygu y gallwch weld a chlywed y drafodaeth ond ni chewch gymryd rhan.

Rydym yn bwriadu darparu recordiad o'r cyfarfod a fydd ar gael ar y wefan yn fuan wedyn. Am y rheswm hwnnw, gofynnwn i chi beidio â recordio'r cyfarfod eich hun.

Cynhelir y cyfarfod hwn yn y Gymraeg a'r Saesneg. Bydd gwasanaeth cyfieithu byw ar gael.