22 July 2026
Rhoddir rhybudd drwy hyn y bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei gynnal ddydd Iau 30 Gorffennaf 2026 am 5:30pm ym Mhencadlys Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Uned 2 Cwrt Charnwood, Heol Bilingsley, Parc Nantgarw, Caerdydd, CF15 7QZ.
Mae’n bleser gennym roi gwybod ein bod ni hefyd yn darlledu ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 30 Gorffennaf 2026, gan roi’r cyfle i unrhyw un sydd â mynediad i'r rhyngrwyd i arsylwi mewn amser real. Byddwn yn cynnal ein cyfarfod drwy Ddigwyddiad Byw ar Teams – gellir cael mynediad i’r cyfarfod trwy ddolen a fydd yn cael ei chyhoeddi drwy gyswllt. I gofrestru eich lle, cliciwch ar y ddolen.
Yn unol â'n hymrwymiad tuag at ddatblygu cynaliadwy, rydym wedi penderfynu peidio argraffu copïau called. Gallwch gael copïau electronig o'r Adroddiad Blynyddol ar wefan yr Ymddiriedolaeth yma.
Os oes angen copi caled arnoch o'r Adroddiad Blynyddol neu'r agenda mewn fformat arall, fel sain, print bras neu Braille, cysylltwch â ni drwy’r cyfeiriad isod:
Cyfeiriad: Uned 2 Cwrt Charnwood, Heol Billingsley, Parc Nantgarw, Caerdydd CF15 7QZ
E-bost: VelindreESA@wales.nhs.uk
Ffôn: 02920 196161
Gallwch gyflwyno cwestiynau sy'n ymwneud â'r cyfnod adrodd 01 Ebrill 2025 – 31 Mawrth 2026 ar gyfer sesiwn holi ac ateb y Cyfarfod Cyffredinol blynyddol o flaen llaw drwy anfon e-bost at Kyle.Page@wales.nhs.uk erbyn 1pm 28 Gorffennaf 2026 man pellaf.
Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn hapus i dderbyn gohebiaeth yn Gymraeg neu’n Saesneg. Er mwyn i ni gynllunio ar gyfer anghenion cyfathrebu'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, anfonwch eich dewis iaith i ni ar ôl derbyn yr hysbysiad hwn.
Diolch.
- Sara Moseley, Cadeirydd