Neidio i'r prif gynnwy

'Cydnabyddiaeth wych' i arbenigwr seicoleg glinigol a chwnsela

Sarah Bull is smiling on the left side, placed next to a British Empire Medal on the right.

9 Ionawr 2024

Mae arbenigwr seicoleg glinigol a chwnsela yng Nghanolfan Ganser Felindre wedi cael ei chydnabod yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2024.

Mae ymroddiad ac ymrwymiad Sarah Bull, sy'n Gwnselydd yn y Tîm Seicoleg Glinigol yng Nghanolfan Ganser Felindre, wedi cael eu cydnabod gyda gwobr Medal yr Ymerodraeth Brydeinig am ei gwasanaethau i ofal lliniarol.

Un o Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yw'r Fedal i gydnabod cyraeddiadau a gwasanaeth pobl eithriadol ledled y DU. Mae'n cael ei dyfarnu i'r rheiny sydd wedi darparu gwasanaeth ymarferol i'r gymuned leol ac wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol.

Meddai Dr Caroline Coffey, sy'n Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser Felindre:

“Rydyn ni'n falch iawn fod Sarah wedi ymuno â’n tîm gyda’i phrofiad helaeth ym maes canser a gofal lliniarol. Mae’r Fedal hon yn gydnabyddiaeth wych o’i gwaith caled a’i hymroddiad dros y blynyddoedd.”

Roedd Sarah yn gweithio yn Felindre rhwng 1998 a 2005 fel cymorth technegol galwedigaethol a ffisiotherapi. Gadawodd i weithio yn Hosbis y Ddinas fel Cwnselydd a Phennaeth y Gwasanaethau Profedigaeth, cyn dychwelyd i’r tîm yng Nghanolfan Ganser Felindre ddiwedd 2023.

Ymhlith y cyraeddiadau lu yng ngyrfa Sarah, sefydlodd hi wasanaeth cwnsela proffesiynol yn 2005 ar gyfer cleifion ac aelodau o'u teulu gyda chefnogaeth Hosbis y Ddinas (Ymddiriedolaeth George Thomas gynt). Roedd hyn yn cynnwys darparu cymorth i blant cleifion sy'n paratoi ar gyfer gofal diwedd oes.

Yn ogystal â hynny, yn 2007 llwyddodd Sarah â chais am grant Children In Need i sefydlu grŵp profedigaeth plant a phobl ifanc mewn partneriaeth gydweithredol â Chanolfan Ganser Felindre. Roedd y grŵp cymorth pwysig hwn ar waith am 13 mlynedd ac yn helpu llawer o blant a phobl ifanc yn eu harddegau i fynegi eu teimladau ynglŷn â cholled ac yn rhoi cyfle gwerthfawr i blant sydd wedi cael profedigaeth gwrdd â phlant eraill sydd mewn sefyllfa debyg.