Neidio i'r prif gynnwy

Cadeirydd Felindre yn ymuno â chefnogwyr i gymryd rhan yn yr Her Sierra Nevada ysbrydoledig

A large group of people are stood together on a mountian during a trek.

13 Awst 2026

Aeth tîm o 58 o godwyr arian o Felindre ar daith gerdded tri diwrnod drwy fynyddoedd y Sierra Nevada yn Sbaen ym mis Mehefin, gydag un nod yn gyffredin: sef codi arian hanfodol ar gyfer Elusen Canser Felindre, a chefnogi cleifion a theuluoedd sy'n cael gofal gan Wasanaeth Canser Felindre.

A group of people are trekking across a mountian. Gyda'i gilydd, fe wnaethon nhw godi elw net o ychydig o dan £130,000 - swm syfrdanol a fydd yn gwneud gwahaniaeth parhaol drwy ariannu offer ac ymchwil arloesol i gefnogi pobl mewn cymunedau ar draws Cymru.

Cofnododd y grŵp ymroddedig sawl awr o gerdded, a degau o filoedd o gamau bob dydd. Daeth y daith gerdded i ben gyda’r cyfranogwyr yn cyrraedd copa uchaf tir mawr Sbaen, Mynydd Mulhacen, sy’n 3,428 metr o uchder. Roedd cyrraedd y copa a chwblhau'r daith gerdded yn gamp ysbrydoledig ac anhygoel, a wnaeth herio'r bobl hynny a gymerodd ran yn gorfforol ac yn emosiynol.

Three people are smiling side by side on a mountian. Ymhlith y rhai a gymerodd ran oedd Sara Moseley, Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Ar ôl ymuno â'r Ymddiriedolaeth ym mis Medi 2025, cymerodd Sara ran yn yr her dim ond 10 mis yn ddiweddarach, Roedd hyn yn dangos ei hymrwymiad i Elusen Canser Felindre, drwy helpu i godi arian a chymryd rhan yn yr her ei hun.

Fel Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, mae cyfranogiad Sara hefyd yn adlewyrchu’r pwysigrwydd o gynnal cysylltiad agos rhwng arweinwyr yr Ymddiriedolaeth a'r cleifion, cefnogwyr, gwirfoddolwyr a staff sy'n ffurfio cymuned ehangach Felindre. Drwy gymryd rhan yn yr her gyda chodwyr arian, gwelodd Sara yr ymroddiad a'r haelioni sy'n cefnogi cymaint o waith yr elusen.

Dywedodd Sara: "Dydw i ddim wedi bod yn Felindre am mor hir â hynny. Dechreuais ym mis Medi, ond gwelais ar unwaith y gwahaniaeth anhygoel mae'r elusen yn ei wneud. Es i mewn i weld Michelle [Pengelley - Nyrs Arbenigol] a dangosodd yr ystafell deulu a’r llyfrau i mi. Fe wnes i gyfarfod â'r tîm therapïau, a dysgais am y gefnogaeth seicolegol a'r therapïau cyflenwol, a meddyliais - mae'n rhaid i mi wneud hyn, mae'n rhaid i mi wneud hyn. Ac roedd y syniad o godi'r arian yn codi ofn arna i.

"Rydw i wedi gallu gweld yn glir iawn pa mor hanfodol yw'r elusen i greu profiadau gwell i gleifion ac ariannu ymchwil hanfodol. Dyna pam ymunais â'n gwirfoddolwyr anhygoel a'n staff elusennol i gymryd rhan yn y daith gerdded hon," ychwanegodd, ar ôl codi dros £4,100 ei hun trwy JustGiving.

Yn ystod y daith gerdded, wrth siarad â Rhod Gilbert, noddwr Elusen Canser Felindre, bu Sara yn sôn am awyrgylch arbennig teithiau cerdded tramor Felindre a'r cyfeillgarwch oedd yn cael ei ffurfio rhwng y cyfranogwyr.

Cymerodd y cyfranogwyr ran am lawer o resymau personol. Roedd rhai wedi bod yn gleifion eu hunain, roedd rhai yn cefnogi ffrindiau neu aelodau o'r teulu a oedd yn cael triniaeth canser ar hyn o bryd, tra bod eraill yn cerdded er cof am rywun annwyl iddyn nhw a oedd wedi derbyn gofal yn Felindre. Cymerodd aelodau o  Felindre ran hefyd, ar ôl cael eu hysbrydoli gan effaith ddofn dewrder cleifion canser a'u teuluoedd bob dydd. Fel heriau tramor blaenorol, cafodd cysylltiadau a ffrindiau gydol oes eu gwneud.

Dywedodd Sara: "Mae llawer o bobl rydw i wedi cwrdd â nhw wedi cerdded gyda chi [Rhod], ar nifer o'r teithiau cerdded hyn, ac maen nhw yma oherwydd beth rydych chi'n dweud - y cyfeillgarwch, a'r ffaith bod pawb yn siarad, yn dydyn? Maen nhw'n siarad am eu bywydau a pham maen nhw yma. Maen nhw'n hollol unigryw dwi'n meddwl, y teithiau cerdded hyn.

"Mae cymaint o eneidiau hyfryd, hael yma – a phob math o bobl wahanol. A dydych chi ddim yn gwybod beth yw cefndir unrhyw un pan fyddwch chi'n cyrraedd, rydych chi gyd yma oherwydd bod rhywbeth wedi gwneud i chi fod eisiau rhoi rhywbeth yn ôl."

A group of people are holding a Velindre Cancer Charity flag on top of a mountain.

I Sara, roedd her y Sierra Nevada yn ymwneud â llawer mwy na chyrraedd y copa. Roedd yn gyfle i sefyll ochr yn ochr â'r cefnogwyr, y gwirfoddolwyr a'r staff sy'n rhoi cymaint o'u hamser a'u hegni i Elusen Canser Felindre. Drwy rannu profiadau, sgyrsiau a heriau, atgyfnerthodd y daith gerdded y cysylltiad hanfodol rhwng arweinwyr yr Ymddiriedolaeth a'r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu, gan helpu i godi bron i £130,000 i gefnogi cleifion a theuluoedd yr effeithir arnynt gan ganser ar draws Cymru.