Neidio i'r prif gynnwy

Blwyddyn o gynnydd, dyfodol o bosibilrwydd | Cynhadledd flynyddol CCRP 2026

28 Medi 2026

Ddydd Mercher 16 Medi 2026, cynhaliodd Partneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd (CCRP) ei chynhadledd flynyddol gyntaf ers ei lansiad swyddogol yn 2025, gan ddod ag ymchwilwyr, clinigwyr, myfyrwyr a phartneriaid o bob cwr o'r gymuned ymchwil canser at ei gilydd i gymryd rhan mewn diwrnod o gydweithio, rhannu gwybodaeth a rhwydweithio.

Dangosodd y digwyddiad ehangder a chryfder ymchwil canser sydd yn digwydd ar draws Caerdydd a Chymru, gyda chyflwyniadau'n cwmpasu ymchwil glinigol, gwyddoniaeth darganfod, ymchwil drosi, datblygu cyffuriau, meddygaeth fanwl a strategaeth data.

Roedd y gynhadledd yn gyfle pwerus i fyfyrio ar y cynnydd sylweddol sydd wedi cael ei wneud dros y flwyddyn ddiwethaf, ac i ddathlu effaith gweithio mewn partneriaeth. O dwf gweithgarwch treialon clinigol a straeon ysbrydoledig cleifion i gyflawniadau cymrodyr ymchwil a myfyrwyr, tynnodd y diwrnod sylw at sut mae CCRP yn hyrwyddo ymchwil ac yn gwella canlyniadau i bobl yr effeithir arnynt gan ganser, yn lleol a thu hwnt.


Uchafbwyntiau o’r diwrnod

Croeso ysbrydoledig gan Carl James

Agorodd y gynhadledd gyda phrif anerchiad gan Carl James, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, a groesawodd y cynrychiolwyr ac a fyfyriodd ar y pwysigrwydd o ddod â'r gymuned ymchwil canser at ei gilydd o dan genhadaeth gyffredin: sef gwella canlyniadau a phrofiadau i bobl yr effeithir arnynt gan ganser.

Gosododd anerchiad Carl y naws ar gyfer diwrnod a oedd yn canolbwyntio ar gydweithio, uchelgais a'r effaith gyfunol y gellir ei chyflawni drwy weithio mewn partneriaeth.


Myfyrio ar flwyddyn o gynnydd

Rhoddodd yr Athro Mererid Evans, yr Athro Awen Gallimore ac aelodau o Grŵp Gweithredol y CCRP drosolwg o gyflawniadau'r bartneriaeth dros y 12 mis diwethaf, a rhannwyd cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Clywodd y cynrychiolwyr sut mae CCRP bellach yn goruchwylio portffolio ffyniannus o dreialon clinigol ar draws canserau haematolegol a solet, gan gynnwys wyth astudiaeth agored ac un sydd wrthi'n cael ei sefydlu ar hyn o bryd. Fe wnaethant hefyd dynnu sylw at lwyddiant cynyddol y rhaglen Ymchwil Darganfod ac Ymchwil Drosi  (DTR), sydd wedi cyflwyno cyfres o weithdai sydd wedi'u cynllunio i ddod ag ymchwilwyr at ei gilydd o amgylch blaenoriaethau cyffredin, cydweithrediadau newydd a chyfleoedd ariannu.

Dangosodd y sesiwn hefyd y manteision clir o  weithio mewn partneriaeth, gan gynnwys cydweithio ar draws pum tîm nyrsio, a galluogi i arbenigedd, gwybodaeth ac adnoddau i gael eu rhannu i ddarparu'r safonau gofal uchaf i gleifion.

Fel y myfyriodd Katie Gilmour, Uwch Nyrs Ymchwil:

"Ni allwn gyflawni popeth ar ein pen ein hunain, a dyna pam mae'r bartneriaeth hon mor bwysig."


Yn arddangos y genhedlaeth nesaf o academyddion clinigol

Un o brif ffocws cynhadledd eleni oedd darparu llwyfan i academyddion clinigol sy'n dod i'r amlwg i rannu eu gwaith a'u huchelgeisiau ymchwil.

Clywodd y mynychwyr gan Gymrodyr Ymchwil CCRP a myfyrwyr sy'n ymgymryd ag astudiaethau PhD ar hyn o bryd, a gyflwynodd gyfres o gyflwyniadau deniadol a sgyrsiau ysgafn a oedd yn trafod ystod amrywiol o bynciau ymchwil.

Dangosodd y sesiynau hyn ddyfnder y dalent o fewn y gymuned ymchwil canser, a thynnu sylw at sut mae datblygiadau yn y dyfodol mewn triniaeth a gofal canser yn cael eu llunio gan y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr.

Llongyfarchiadau i Morgan Williams, a enillodd y wobr am y Sgwrs Mellt Orau, a Chloe Harris, a dderbyniodd y wobr am y Poster Ymchwil Gorau.

Cryfhau cydweithio drwy Bartneriaid Iechyd Caerdydd

Clywodd y cynrychiolwyr hefyd gan Rachel Savery, Rheolwr Gyfarwyddwr Dros Dro Partneriaid Iechyd Caerdydd (CHP), a rannodd weledigaeth y sefydliad ar gyfer arloesi a chydweithio ym maes iechyd ar draws Caerdydd a thu hwnt.

Fel un o bartneriaid allweddol Partneriaid Iechyd Caerdydd, mae CCRP yn helpu i gryfhau cysylltiadau rhwng ymchwil, gofal iechyd ac arloesedd. Tynnodd Rachel sylw at y pwysigrwydd o sicrhau bod cleifion yn parhau i fod wrth wraidd ymchwil a datblygu, gan atgoffa'r cynrychiolwyr pam bod cydweithio'n hanfodol i gyflawni effaith ystyrlon.

Roedd y gynhadledd hefyd yn garreg filltir gyffrous yn y berthynas ddatblygol rhwng CHP a CCRP, gyda chytundeb partneriaeth ffurfiol ar fin cael ei gadarnhau, a fyddai'n agor cyfleoedd newydd i ddatblygu ymchwil, arloesi a gwella canlyniadau i gleifion ar draws y rhanbarth.


Edrych i’r dyfodol

Dangosodd llwyddiant y gynhadledd flynyddol gryfder y gymuned ymchwil canser ar draws Caerdydd a Chymru, ac atgyfnerthodd y gwerth o ddod ag ymchwilwyr, clinigwyr, myfyrwyr a phartneriaid at ei gilydd i gydweithio a rhannu syniadau.

Mae CCRP yn bwriadu cynnal y digwyddiad yn flynyddol, gan greu cyfle parhaus i ddathlu cyflawniadau, meithrin partneriaethau newydd ac arddangos y datblygiadau diweddaraf mewn ymchwil canser.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, cyfleoedd ymchwil a newyddion partneriaeth yn y dyfodol, cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr y CCRP drwy glicio ar "Receive our Newsletter" ar dudalen hafan gwefan CCRP.