22 Medi 2026
Mae Uned Radiotherapi Felindre @ Nevill Hall yn y Fenni yn dathlu blwyddyn gyntaf lwyddiannus o ddarparu triniaeth ganser arbenigol yn nes at gartref i gannoedd o bobl ledled De-ddwyrain Cymru.
Mae'r garreg filltir hon yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus Gwasanaeth Canser Felindre i ddarparu gofal canser o safon fyd-eang yn nes at gartrefi pobl, gan sicrhau bod mwy o gleifion yn gallu cael triniaeth amserol yn eu cymunedau lleol ac elwa ar y safonau uchaf o ofal arbenigol.
Datblygwyd y cyfleuster gwerth £38 miliwn mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fel rhan o raglen Datrysiad Radiotherapi Integredig (IRS) Felindre. Mae'n cael ei weithredu a'i staffio'n llawn gan dimau Felindre, ac mae wedi cynyddu capasiti radiotherapi yn sylweddol ar draws y rhanbarth.
Dros y 12 mis diwethaf, mae'r Uned wedi cynnal 577 o apwyntiadau sganio tomograffeg gyfrifiadurol ('CT scanning' yn Saesneg) ac wedi cofnodi 5,988 o ymweliadau cleifion, gan gynnwys 5,411 o apwyntiadau ar gyfer triniaeth radiotherapi yn unig. Yn ogystal â hynny, mae'r gwasanaeth wedi helpu i arbed cleifion a'u teulu mwy na 3,000 o filltiroedd o deithio.
Meddai Carl James, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre:
"Mae llwyddiant Uned Radiotherapi Felindre @ Nevill Hall yn dangos grym partneriaeth o ran trawsnewid gwasanaethau er budd cleifion. Hoffwn ddiolch i gydweithwyr o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Byrddau Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Caerdydd a'r Fro, Cwm Taf Morgannwg a Phowys am eu hymrwymiad a'u harbenigedd sydd wedi helpu i sicrhau llwyddiant ysgubol y gwasanaeth hwn.
"Wrth i'r galw am wasanaethau canser barhau i gynyddu, mae ein gallu i ddarparu gwasanaethau'n nes at gartrefi pobl yn hanfodol er mwyn galluogi mwy o gleifion i gael gofal hynod o arbenigol ledled y rhanbarth, gan wella eu canlyniadau a'u profiad."
Meddai Nicola Prygodzicz, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:
"Mae llwyddiant Uned Radiotherapi Felindre @ Nevill Hall dros ei blwyddyn gyntaf yn rhywbeth y gall pawb sydd wedi bod yn rhan ohono fod yn hynod falch ohono. Crëwyd y cyfleuster hwn drwy bartneriaeth gref rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, gyda'r uchelgais gyffredin o ddod â gofal canser arbenigol yn nes at y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
"Edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael gofal o'r safon uchaf, mor agos at eu cartrefi â phosibl, yn unol â'n strategaeth ddeng mlynedd 'Gwent 35'."
Ers agor, mae'r Uned wedi darparu triniaeth radiotherapi i 262 o gleifion canser y fron a 196 o gleifion canser y prostad. Gan adeiladu ar y llwyddiant hwnnw, mae'r gwasanaeth hefyd wedi ehangu i gynnwys radiotherapi lliniarol, gan helpu cleifion ar rai o'r adegau mwyaf heriol yn eu taith canser. Ers cyflwyno'r gwasanaeth hwn, mae 17 o gleifion wedi derbyn triniaeth radiotherapi lliniarol yn yr Uned.
Mae darparu gofal yn nes at gartref yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol ar draws GIG Cymru, ac mae effaith y cyfleuster yn y Fenni yn ymestyn ymhell y tu hwnt i nifer y triniaethau. Mae'r Uned wedi lleihau'r baich ymarferol ac emosiynol sy'n gysylltiedig â mynychu triniaeth i nifer fawr o gleifion, gan gefnogi hefyd nodau ehangach cynaliadwyedd amgylcheddol drwy leihau nifer y teithiau ar ffyrdd Cymru.
Meddai Kate Hannam, Cyfarwyddwr, Gwasanaeth Canser Felindre:
"Wrth weithio'n agos gyda'n cydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, rydym wedi creu gwasanaeth sy'n ehangu'r arlwy o driniaeth radiotherapi arbenigol i bobl ledled de-ddwyrain Cymru.
"Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Uned eisoes wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i lawer o gleifion drwy leihau eu hamser teithio a gwneud eu gofal yn fwy cyfleus yn ystod cyfnod heriol yn eu bywyd. Rydym yn falch o'r hyn sydd wedi ei gyflawni hyd yn hyn ac edrychwn ymlaen at ddatblygu ar y llwydiant hwn yn y dyfodol."
Mae effaith yr Uned i'w gweld ym mhrofiad cleifion fel Eileen Powell o Gasnewydd, sydd wedi cael radiotherapi yn yr Uned ar ôl llawdriniaeth a chemotherapi.
Pan gafodd Eileen ddiagnosis o ganser deuochrog y fron ar ôl cael mamogram arferol, dechreuodd ar daith o driniaeth oedd yn cynnwys llawdriniaeth, cemotherapi a radiotherapi.
Ar ôl gorffen ei chemotherapi, cafodd Eileen ei hatgyfeirio i Uned Radiotherapi Felindre @ Nevill Hall yn y Fenni, lle cafodd driniaeth radiotherapi.
Wrth edrych yn ôl ar ei phrofiad, meddai Eileen:
"Roedd cael triniaeth yn Nevill Hall yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Roedd gwybod bod modd parcio'n hawdd a bod yr uned reit wrth ymyl y maes parcio yn cael gwared ar lawer o'r straen sy'n dod gyda dod i apwyntiadau rheolaidd."
Fe wnaeth Eileen hefyd ganmol y gofal y cafodd gan y staff drwy gydol ei thriniaeth.
"Mae'r uned ei hun yn wych, ond y staff sy'n gwneud y gwahaniaeth go iawn. Roedd pob aelod o'r tîm yn broffesiynol, yn garedig ac yn helpu i dawelu fy meddwl. Roedden nhw bob amser yn cymryd yr amser i esbonio beth oedd yn digwydd a gwneud yn siŵr fy mod i'n gyfforddus."
Wrth ystyried ei thriniaeth, disgrifiodd Eileen ei phrofiad yn un hynod o gadarnhaol.
"Byddwch chi'n cael gofal arbennig o dda. Mae ansawdd y gofal yn rhagorol ac mae'r staff yn anhygoel. Alla i ddim eu canmol nhw ddigon."
Mae llwyddiant yr Uned yn deillio o bartneriaeth agos ar draws gwasanaethau yn Sir Fynwy ac ym Mlaenau Gwent, yn ogystal â chefnogaeth barhau y gymuned.
Wrth i'n gwasanaethau barhau i ddatblygu, mae Felindre'n edrych ymlaen at ddatblygu ar y cysylltiadau hyn, creu cyfleoedd newydd i bobl gymryd rhan yn ein gwaith, hybu gofal canser yn agosach at gartrefi pobl, a llywio dyfodol gwasanaethau canser yng Nghymru.