6 Mai 2026
Fel sefydliad o bwys cenedlaethol o fewn GIG Cymru, mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn darparu gwasanaethau canser arbenigol ar gyfer De Ddwyrain Cymru, ochr yn ochr â gwasanaethau gwaed, trawsblannu a diagnostig hanfodol i gleifion ac ysbytai ar draws Cymru gyfan. Mae ein gwaith yn gymhleth, yn hanfodol o ran diogelwch ac yn bwrpasol iawn, ac yn cael ei gefnogi gan weithlu medrus ac ymroddedig iawn.
Mae'r Ymddiriedolaeth bellach mewn cyfnod hollbwysig. Ochr yn ochr â'r pwysau gweithredol ac ariannol sy'n wynebu'r system iechyd ehangach, mae Felindre yn cwblhau un o'r rhaglenni trawsnewid mwyaf uchelgeisiol ym maes gofal iechyd Cymru: sef datblygu Canolfan Ganser Felindre newydd, o'r radd flaenaf; a moderneiddio gwasanaeth gwaed a thrawsblaniadau cenedlaethol Cymru.
Rydym yn chwilio am arweinydd profiadol, sydd yn cael ei arwain gan werthoedd, ac sydd â hanes cryf o arwain ar lefel Bwrdd mewn sefydliad cymhleth yn y GIG, yn gyhoeddus neu'n fasnachol.
Byddwch yn arweinydd credadwy, sy’n ymwybodol o wleidyddiaeth, ac sydd gyda’r gallu i arwain trawsnewid yn gyflym, mewn ffordd onest, agored a chynhwysol.
Mae hwn yn gyfle pwysig i gryfhau diwylliant, adfer hyder a llunio pennod nesaf yr Ymddiriedolaeth, ac i wneud gwahaniaeth parhaol i wasanaethau canser ac arbenigol yng Nghymru.