Neidio i'r prif gynnwy

A allai treial clinigol chwarae rhan yn eich triniaeth? Gwrando ar gleifion go iawn sydd wedi gweld y manteision drostynt eu hunain

Three patients smile as they receive treatment from Velindre Cancer Service.

20 Mai 2026

Mae Treialon Clinigol yn ganolog i'n gwaith yma yn Felindre. Diolch i'n timau ymchwil a threialon ymroddedig, rydym yn chwarae rhan hanfodol mewn datblygu a chyflwyno triniaethau canser newydd a gwell, ac yn helpu i lunio dyfodol gofal cleifion.

I nodi’r Diwrnod Treialon Clinigol eleni, rydym yn rhannu straeon personol gan ein cleifion a'n staff sydd yn rhan o'n treialon. Byddwch yn clywed gan bedwar claf, sef Alison, Leigh, Patricia ac Andrew, sy'n derbyn gofal yn ein huned treialon clinigol bwrpasol, yn ogystal ag Amy, un o'n nyrsys treialon arbenigol, wrth iddynt fyfyrio ar eu profiadau ac ar effaith ymchwil glinigol yn Felindre.


Alison Longman ac Amy Matthews-Stanbury

Cafodd Alison ddiagnosis o ganser y fron yn ddiweddar, a dechreuodd driniaeth yn Felindre yn gynharach eleni. Yn ystod apwyntiad claf allanol, cynigiwyd y cyfle iddi gymryd rhan mewn treial clinigol, a gyflwynwyd fel yr opsiwn gorau iddi ar gyfer ei thriniaeth.

Ar y pryd, roedd Alison mewn lle isel ac anodd iawn, yn dod i delerau â'i diagnosis. Er gwaethaf hyn, dewisodd gymryd rhan yn y treial, wedi'i ysgogi nid yn unig gan y gobaith y gallai ei helpu, ond gan ymdeimlad dwfn o bwrpas. Roedd hi’n teimlo bod yn rhaid iddi ei wneud iddi hi ei hun, ac i genedlaethau’r dyfodol, gan gynnwys i’w merch a’i hwyres, a allai un diwrnod elwa o ddatblygiadau trwy ymchwil fel hyn.

Nawr, yn derbyn ei thriniaeth drwy'r treial yn Felindre, mae Alison yn siarad yn gynnes am ei phrofiad. O'i hapwyntiad cyntaf un yn yr uned dreialon, roedd hi’n teimlo’n gyfforddus ar unwaith. Ers hynny, mae hi wedi adeiladu perthynas gryf ac ymddiriedus gyda'r tîm nyrsio, yn enwedig ei nyrs, Amy, y mae ei gofal a'i chefnogaeth wedi bod yn ffynhonnell gyson o gysur drwy gydol ei thaith hyd yn hyn.

Wedi’ch ysbrydoli gan y straeon hyn?
Siaradwch â’ch tîm gofal iechyd i gael gwybod a allai treial clinigol fod yn opsiwn i chi.


Andrew Edward

A man in a yellow jacket is smiling in a hospital ward. Ar ddiwedd 2025, dysgodd Andrew fod canser ei ysgyfaint wedi dychwelyd. Yn wynebu diagnosis lliniarol, gwnaeth y penderfyniad i ymuno â threial clinigol SWENSAN, a dechrau triniaeth yn Felindre ym mis Ionawr 2026.

I ddechrau, roedd Andrew yn teimlo'n bryderus ynghylch cymryd rhan mewn treial clinigol. Fodd bynnag, gydag anogaeth a chefnogaeth gan ei wraig a'i blant, penderfynodd fwrw ymlaen, penderfyniad y mae bellach yn hynod falch ei fod wedi'i wneud. “Os yw’n fy helpu i, gall helpu pobl eraill,” meddai Andrew.

Wrth fyfyrio ar ei brofiad yn Felindre, mae Andrew yn ei ddisgrifio fel un positif dros ben. Mae'n siarad yn gynnes am fynychu'r uned, chwerthin gyda'r staff nyrsio, a theimlo'n ddiolchgar go iawn am y cyfle i dderbyn y driniaeth hon. Mae'r gofal a'r gefnogaeth y mae wedi'i dderbyn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr yn ystod cyfnod heriol.

Pan ofynnwyd iddo beth fyddai'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried ymuno â threial clinigol, mae cyngor Andrew yn ddiffuant ac yn galonogol: “Ewch amdani, oherwydd gallai achub eu bywyd. Gallwn i fod wedi marw dau fis yn ôl, ond fe wnaethon nhw ddod o hyd i'r treial clinigol, fe wnaethon nhw sôn amdano wrtha i, fe benderfynon ni fynd amdani, ac rydw i yma heddiw.”


Leigh Wujewski

A man is smiling as he is sat in a chair on a hospital ward. Yn dilyn apwyntiad gyda meddyg teulu ar ôl cael trafferth yn  anadlu, cafodd Leigh ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint ym mis Hydref 2025. Ddwy flynedd ynghynt yn unig, roedd wedi dioddef strôc, her iechyd sylweddol arall, ond ni wnaeth hyn ei atal rhag cael mynediad at y gofal a'r cyfleoedd sydd ar gael i gleifion fel ef.

Dechreuodd Leigh ei driniaeth yn Felindre, lle cafodd gemotherapi a radiotherapi. Drwy gydol yr amser hwn, roedd ei wydnwch a'i agwedd gadarnhaol yn amlwg. Pan gynigiwyd y cyfle iddo gymryd rhan mewn treial clinigol yn ddiweddarach, aeth Leigh amdani gyda’i agwedd hamddenol arferol, gan ddweud yn syml, “Pam lai?”

I Leigh, nid dim ond i roi cynnig ar rywbeth newydd oedd ei reswm i ymuno â'r treial - roedd yn gyfle i barhau i frwydro yn erbyn ei ddiagnosis gyda'r gobaith o helpu cleifion yn y dyfodol hefyd. Mae ei stori'n adlewyrchu'r pwysigrwydd o sicrhau bod gan gleifion, waeth beth fo'u hanes meddygol, fynediad at ymchwil a gofal a allai newid bywydau.


Patricia Jones

A woman is sat on a green chair and smiling. Nôl yn 2020, derbyniodd Tricia y newyddion bod ganddi ganser terfynol, gyda phrognosis o ddim ond wythnosau neu fisoedd i fyw. Roedd yn gyfnod anodd iawn iddi hi a'i hanwyliaid, wrth iddyn nhw ddod i delerau â diagnosis mor gyfyngedig o ran bywyd.

Bryd hynny, cynigiwyd cyfle i Tricia gymryd rhan mewn treial clinigol yn Felindre. Ar ôl sgyrsiau gyda'i mab a’r tîm treialon yn Felindre, dewisodd fwrw ymlaen, penderfyniad a fyddai'n newid cwrs ei thaith.

Chwe blynedd yn ddiweddarach, mae Tricia yn dal i fynychu Felindre am driniaeth barhaus. Mae hi'n siarad gyda diolchgarwch diffuant am y gofal mae hi wedi'i dderbyn, yn enwedig gan dîm nyrsio'r treialon, y mae eu tosturi a'u cefnogaeth wedi gwneud gwahaniaeth mor fawr. I Tricia. Nid yn unig y gwnaeth cael y cyfle i gymryd rhan mewn treial ymestyn ei bywyd, ond mae wedi ei helpu i adennill ymdeimlad o obaith a phositifrwydd.

Mae'r effaith wedi bod yn enfawr. Mae'r treial wedi rhoi mwy o amser gwerthfawr i Tricia gyda'i theulu, ac wedi creu momentau ac atgofion yr oedd hi ar un adeg yn ofni na fyddai hi fyth yn eu cael. Mae hi'n myfyrio ar ba mor gadarnhaol mae’r profiad cyffredinol wedi bod, ac yn disgrifio'r uned dreialon fel un croesawgar, cysurlon, a llawn caredigrwydd, ac meddai "Rwy'n gwybod bod hyn yn swnio'n rhyfedd iawn, ond rwy'n caru dod yma, wir i chi: "Maen nhw'n codi fy ysbryd. Dydw i ddim hyd yn oed yn cyrraedd fy sedd, ac mae'r croeso rwy'n ei gael yn anhygoel."

Gallwch ddysgu mwy am Dreialon Clinigol Felindre yma.