Neidio i'r prif gynnwy

4 Chwefror yw Diwrnod Canser y Byd

2 Chwefror 2023

Bob blwyddyn ar 4 Chwefror, mae Canolfan Ganser Felindre’n dathlu Diwrnod Canser y Byd.

Mae’r diwrnod yn uno pobl, cymunedau a gwledydd ledled y byd i godi ymwybyddiaeth a chymryd camau gweithredu.

Thema’r ymgyrch rhwng 2022 a 2024 yw cau’r bwlch gofal, ac ar ôl canolbwyntio y llynedd ar gydnabod y broblem, y ffocws eleni yw uno ein lleisiau a gweithredu.

Mae canser yn effeithio’n anghymesur ar bobl yn dibynnu ar sawl gwahanol ffactor, fel pwy ydyn nhw a ble maen nhw’n byw.

Mae 10 miliwn o bobl y flwyddyn yn marw o ganser, ac o blith y rheiny mae tua 70% yn 65 oed neu’n hŷn, ac eto mae pobl hŷn yn wynebu rhwystrau anghymesur rhag triniaeth effeithiol.

Ar ben arall y sbectrwm, mae 80% o blant mewn gwledydd uchel eu hincwm yn goroesi canser, o’u cymharu ag 20% mewn gwledydd isel eu hincwm.

Yn ogystal â hynny, gall cymaint â 71% o fenywod gwyn fyw am bum mlynedd ar ôl cael canser y gwddf y groth, ond mae’r ffigur hwn yn cwympo i 58% ymysg menywod du.

 

Trwy gydol yr wythnos ar ein cyfryngau cymdeithasol, rydyn ni wedi bod yn siarad ag aelodau unigol o staff ynglŷn â beth mae'r diwrnod hwn yn ei olygu iddyn nhw.