Mae Canolfan Ganser Felindre wedi rhoi mesurau ar waith i sicrhau diogelwch ein holl gleifion a staff ac ar yr un pryd, ceisio sicrhau bod gwasanaethau ar gael fel yr arfer mewn ymateb i'r achosion Coronafeirws. Mae GIG Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi'u paratoi'n dda ar gyfer achosion o glefydau heintus newydd, ac rydym eisiau eich sicrhau chi fel cleifion a gofalwyr, mai eich diogelwch chi, ynghyd â diogelwch ein staff, yw ein prif flaenoriaethau. Dyna pam rydym yn annog ein cleifion i fynychu pob apwyntiad fel yr arfer os yw'n bosibl, oni bai eich bod chi’n teimlo'n sâl neu wedi cael gwybod fel arall.
Dyma symptomau mwyaf cyffredin COVID-19:
I'r rhan fwyaf o bobl, bydd COVID-19 yn haint ysgafn.
Does dim angen i bobl gysylltu â GIG 111 o hyn ymlaen os ydynt yn credu y gallent fod wedi contractio COVID-19.
Dim ond os ydych chi’n teimlo fel nad ydych chi’n gallu ymdopi â'ch symptomau gartref, os yw eich cyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw eich symptomau'n gwella ar ôl saith diwrnod y dylech gysylltu â GIG 111. PEIDIWCH â mynd i feddygfa, fferyllfa neu ysbyty.
Gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
I gael gafael ar yr wybodaeth hon yn Iaith Arwyddion Prydain, ewch i www.bcuhb.nhs.wales.