Neidio i'r prif gynnwy

Mae pob stori o bwys

A collage of people impacted by the coronavirus pandemic.

Eich cyfle chi i helpu Ymchwiliad COVID-19 y DU i ddeall y pandemig, o'ch safbwynt chi, wrth i ni ymchwilio i ymateb y DU a'i effaith.

Effeithiodd y pandemig ar bob un person yn y DU ac, mewn llawer o achosion, mae'n parhau i gael effaith barhaol ar fywydau. Mae pob un o'n profiadau yn unigryw a dyma eich cyfle i rannu'r effaith a gafodd arnoch chi, a'ch bywyd, â'r Ymchwiliad.

Bydd pob stori a rennir â ni yn cael ei defnyddio i lywio’r Ymchwiliad a'n helpu i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol. Caiff straeon eu coladu, eu dadansoddi a'u troi'n adroddiadau ar thema, a fydd yn cael eu cyflwyno i bob ymchwiliad perthnasol ar ffurf tystiolaeth. Caiff yr adroddiadau eu rhoi ar ffurf ddienw.

Sut i gymrhyd rhan

Gall unrhyw fudiad a chymuned gymryd rhan yn ‘Mae pob stori o bwys’ drwy rannu eu profiadau o bandemig COVID-19.

Y brif ffordd o ymateb i’r ymchwiliad yw drwy’r ffurflen ar-lein yn everystorymatters.co.uk, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch chi hefyd rannu hon gyda’ch cysylltiadau er mwyn sicrhau bod cymaint â phosibl o bobl yn cymryd rhan.

Opsiynau Hygyrch

Gellir cael yr opsiynau hygyrch canlynol o’r Ymchwiliad yn uniongyrchol. Gall unigolion anfon e-bost at contact@COVID19.public-inquiry.uk neu ysgrifennu at RHADBOST, Ymchwiliad Cyhoeddus COVID-19 y DU:

  1. Copi caled ar bapur
  2. Fersiwn hawdd ei darllen
  3. Braille
  4. Iaith arwyddion Prydain
  5. Ieithoedd eraill
  6. Llinell ffôn ac iaith: ar gael yn ddiweddarach yr haf hwn
  7. Digwyddiadau gwrando ar y gymuned – i fod i gael eu cynnal ledled y wlad yn ddiweddarach y flwyddyn hon

Am ragor o wybodaeth ac i lenwi’r ffurflen ar-lein, ewch i everystorymatters.co.uk.