"Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn dathlu'r Gymraeg a'i phwysigrwydd diwylliannol i Gymru. Fel sefydliad gofalgar sy'n hyrwyddo ac yn deall gwerth diwallu anghenion cyfathrebu, byddwn yn darparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn cynllunio'n ofalus ar gyfer popeth a wnawn. "
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i'r Ymddiriedolaeth wrth iddi symud tuag at gyflawni safonau'r Gymraeg a hyrwyddo ymhellach yr ethos sy'n sail i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Ein Hadroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer 2021-22
Ein Cynllun Cyflawni Ymgynghoriadau Clinigol yn y Gymraeg 2022-2027
Mae darparu gwasanaeth dwyieithog i gleifion a rhoddwyr yn fwy na dewis, gall fod yn angen clinigol i rai ac mae'r Ymddiriedolaeth yn ymwybodol, er mwyn cefnogi'r angen clinigol hwnnw, bod darparu gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ofal person er mwyn iddynt parhau i wella.
Mae'r Gymraeg yn rhan annatod o fywydau pobl ac mae'r Ymddiriedolaeth yn ymrwymedig i gefnogi ei chleifion, ei rhoddwyr a'i staff i sicrhau y gallant fanteisio ar y ddarpariaeth sydd ei hangen arnynt yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Gyda data newydd ar gael yn datgan y cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg, mae'n amser da i gynllunio, hyrwyddo a darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen yn y pen draw ar y gofal a'r cymorth y mae ar bobl ar draws Cymru gyfan ei angen.
Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac yn cefnogi eu huchelgeisiau o filiwn o siaradwyr Cymraeg ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chomisiynydd y Gymraeg a byrddau iechyd eraill ac ymddiriedolaethau i sicrhau bod ein cleifion a'n rhoddwyr yn derbyn y gofal gorau gallwn eu darparu.