Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol
Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol
Mae gan Sarah brofiad o bob rhan o'r system iechyd a gofal, ar ôl gweithio mewn sefydliadau darparwyr y GIG, systemau gofal integredig, llywodraeth leol, addysg uwch, gofal cymdeithasol i oedolion a'r sector gwirfoddol, cymunedol a mentrau cymdeithasol. Dechreuodd ei gyrfa yn y GIG fel nyrs cyn cymhwyso fel bydwraig, ac mae hi wedi mynd ymlaen i arwain ystod o wasanaethau clinigol, gweithredol a gwasanaethau’r gweithlu drwy gydol ei gyrfa.
Yn Gymrawd Siartredig o'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD), mae gan Sarah radd MSc mewn Astudiaethau Polisi, a Doethuriaeth sy'n archwilio damcaniaeth gymdeithasol, dysgu a sefydliadau. Drwy gydol ei gyrfa, mae hi wedi canolbwyntio ar gryfhau sgiliau arweinyddiaeth, datblygu diwylliannau cynhwysol a chreu atebion i'r gweithlu sy'n gwella gwasanaethau i staff a'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu.
Y tu allan i'r gwaith, mae hi'n mwynhau treulio amser yn yr awyr agored, cadw'n heini a gwneud y gorau o'i amser gyda theulu a ffrindiau.