Neidio i'r prif gynnwy
Lauren Fear

Amdanaf i

Lauren yw Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol yr Ymddiriedolaeth. Mae ei phortffolio'n cynnwys llywodraethu, risg, sicrwydd, cyfathrebu ac ymgysylltu. Ymunodd Lauren â'r Ymddiriedolaeth yn 2019.

Cyn ymuno â’r Ymddiriedolaeth, bu Lauren yn gweithio yn y diwydiant bancio a chyllid, lle bu'n fwyaf diweddar, yn arwain adrannau i gynllunio a darparu atebion risg a llywodraethu arloesol i heriau'r diwydiant cyfan. Mae Lauren wedi arwain timau i gefnogi cwmnïau sy’n wynebu anawsterau ariannol, wedi arwain ar fentrau strategaeth cwsmeriaid manwerthu, ac roedd yn Brif Swyddog Staff i'r Prif Swyddog Risg.

Ar hyn o bryd, fel rhan o bortffolio ehangach Lauren, mae hi’n Gyfarwyddwr Anweithredol ac yn Ymddiriedolwr Cyngor ar Bopeth Caerdydd a'r Fro ac mae hi hefyd, yn Llywodraethwr Ysgol Gynradd Gatholig y Teulu Sanctaidd.

Darllenodd Lauren Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg ym Mhrifysgol Rhydychen, lle enillodd Wobr Lynda Grier am Economeg.

Mae hi’n hoffi sialens ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae hi wedi dringo Kilimanjaro ac wedi cwblhau pum hanner marathon mewn pum niwrnod ar hyd Wal Fawr Tsieina.

Mae gan Lauren ddwy ferch fach, Mari a Gwen. Y tu allan i'r gwaith, mae hi'n mwynhau treulio amser gyda nhw – ac yn mwynhau darllen, rhedeg ac anturiaethau hefyd.