Neidio i'r prif gynnwy
Alan Prosser

Gwasanaeth Gwaed Cymru

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaeth Gwaed Cymru

Ganed Alan yn Wolverhampton, a graddiodd o Goleg Polytechnig Portsmouth ym 1990, gyda gradd mewn Geoleg.  Yn dilyn cyfnod o ddwy flynedd o deithio helaeth, dechreuodd Alan ar ei yrfa yn Ymddiriedolaeth GIG Pen-y-bont ar Ogwr a'r Cylch ar ddechrau'r 1990au, yn gweithio ar draws Ysbyty Cyffredinol Pen-y-bont ar Ogwr ac Ysbyty Tywysoges Cymru.  Ffurfiwyd Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg ym 1999, a bu Alan yn goruchwylio’r gwaith cyffredinol o reoli’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys, Anaestheteg, y Theatrau, Arbenigeddau Llawfeddygol a Gofal Critigol yn Ysbytai Tywysoges Cymru a Chastell-nedd Port Talbot.  

Cwblhaodd Alan ei radd meistr mewn Rheoli Gofal Iechyd yn 2004.

Ymunodd Alan ag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn 2008 fel Rheolwr Gwasanaethau Cyffredinol/Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru, yn goruchwylio, cymorth busnes, cynllunio cyfalaf/busnes, parhad busnes, cyfleusterau a gwasanaethau TG, ac fe'i benodwyd yn Gyfarwyddwr Dros Dro ym mis Mai 2019.  

Mae gan Alan hanes o arwain rhaglenni newid mawr cymhleth ac o foderneiddio gwasanaethau, yn enwedig mentrau cyfalaf a Thechnoleg a Rheoli Gwybodaeth, sy’n cynnwys newidiadau i'r gweithlu mewn partneriaeth ag Undebau Masnach. Mae Alan yn frwdfrydig ynghylch datblygu tîm ac ynghylch tynnu sylw a hyrwyddo talent o fewn y gwasanaeth.  

Yn ei amser hamdden, mae Alan yn mwynhau cymryd rhan mewn cystadlaethau sboncen o amgylch de Cymru, mae'n hoff iawn o gerddoriaeth, ac mae wedi cefnogi Wolverhampton Wanderers ar hyd ei oes.