Gyda nifer yr unigolion sy'n cael eu diagnosio ac sy’n byw gyda chanser yn cynyddu – amcangyfrifir y bydd 230,000 yn dioddef o ganser erbyn 2030 – mae'n bwysig dros ben ein bod ni’n darparu gwasanaethau sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac sy'n gallu darparu gwell profiadau a chanlyniadau i gleifion.
Fel rhan o'n perthynas waith gydweithredol, hirsefydlog gyda’r byrddau iechyd yn ne ddwyrain Cymru, rydym yn gweithio i geisio datblygu’r model gofal gorau, sy'n sicrhau bod ein cleifion yn parhau i dderbyn y gwasanaethau triniaeth sydd eu hangen arnynt fel rhan o'u taith ganser.
Mae gan radiotherapi rôl bwysig i’w chwarae mewn trin canser, gan y bydd tua hanner yr holl gleifion canser yn cael radiotherapi fel rhan o'u triniaeth. Yn ogystal, mae 4 o bob 10 claf yn cael eu gwella drwy gael radiotherapi (Sefydliad Iechyd y Byd (WHO)/Internatona Atomic Energy Agency (IAEA)).
Mae model wedi'i rwydweithio yn cael ei ddefnyddio gan ganolfannau canser blaenllaw ar draws y byd, sy'n sicrhau canlyniadau da, a dyna pam rydym yn cynnig newid i’r gwasanaethau radiotherapi yn ein rhanbarth, i sicrhau y byddant yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Rydym eisiau clywed gennych chi, poblogaeth de ddwyrain Cymru, ynghylch y newid arfaethedig i’r gwasanaethau…
Rydym wedi casglu gwybodaeth am natur gwasanaethau radiotherapi, y sefyllfa ar hyn o bryd, yr heriau sy'n ein hwynebu, ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a'r manteision i gleifion. Dysgwch fwy am y newidiadau arfaethedig, a rhowch eich adborth.
Diolch i bawb a ymatebodd i'n hymgysylltiad â'r newidiadau i'r gwasanaethau radiotherapi yn ne ddwyrain Cymru trwy'r ganolfan loeren arfaethedig, a ddaeth i ben ar 13 Gorffennaf 2021.
Bydd eich adborth a'ch barn yn cael eu cynnwys mewn adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Iechyd Cymunedol, yn ogystal â'i ymgorffori yn y cynlluniau ar gyfer y ganolfan loeren wrth iddynt symud ymlaen.
Os hoffech chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau ar gyfer prosiect Canolfan Lloeren Radiotherapi, yna gallwch chi ymuno â chylchlythyr Velindre Matters trwy e-bostio Cysylltu.Felindre@wales.nhs.uk