17 Medi 2026
Gyda thristwch mawr y rhannwn y newyddion am farwolaeth yr Athro Tom Crosby OBE, cydweithiwr annwyl iawn ac Ymgynghorydd Oncoleg Glinigol uchel ei barch yng Ngwasanaeth Canser Felindre.
Yn arbenigwr enwog mewn canser gastroberfeddol uchaf, gwnaeth Tom gyfraniad eithriadol i ofal canser yng Nghymru ac ar draws y DU. Chwaraeodd ran flaenllaw yn Rhwydwaith Canser Cymru ac, fel y Cyfarwyddwr Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Canser, arweiniodd y gwaith o ddatblygu cynlluniau cyflawni a gwella canser cenedlaethol, y Llwybr Canser Sengl, a chwaraeodd ran allweddol yn nhrawsnewid gwasanaethau oncoleg yn Ne-ddwyrain Cymru.
Yn cael ei gydnabod yn eang am ei arweinyddiaeth mewn ymchwil, gwella gwasanaethau ac ymarfer clinigol ym maes canser gastroberfeddol uchaf ac oesoffago-gastrig, bu Tom yn Brif Ymchwilydd ar dreial aml-ganolfan SCOPE y DU a’r gyfres SCOPE ddilynol, ac ar yr archwiliad cenedlaethol Gastroberfeddol Uchaf. Bu hefyd yn helpu i sefydlu a datblygu Cwrs FRCR Caerdydd ar gyfer Oncoleg Glinigol, sydd bellach yn cael ei gydnabod yn fyd-eang. Caiff ei gofio nid yn unig am ei arbenigedd clinigol a’i ymroddiad i wella canlyniadau i bobl yr effeithir arnynt gan ganser, ond hefyd am y cynhesrwydd, y caredigrwydd a’r tosturi a ddangosodd yn ei waith ac i’r rhai o’i gwmpas.
Roedd ymroddiad Tom i wella canlyniadau i bobl sy'n wynebu canser yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'w rolau clinigol ac arweinyddol. Roedd hefyd yn gefnogwr diflino i Elusen Felindre, gan roi ei amser, ei egni a'i ymrwymiad personol i nifer o deithiau beicio a gweithgareddau codi arian er budd y cleifion, y teuluoedd a'r gwasanaethau yr oedd mor angerddol amdanynt.
Cafodd cyfraniad Tom ei gydnabod drwy ddyfarnu proffesoriaeth anrhydeddus iddo gan Brifysgol Caerdydd, yn ogystal ag OBE am wasanaethau i wasanaethau canser yng Nghymru ac ar draws y DU yn 2019.
Mae hwn yn newyddion hynod o drist i'r sefydliad. Meddyliwn am ei deulu, ei ffrindiau, ei gydweithwyr, ei gleifion, ei gydgodwyr arian a phawb a oedd yn ei adnabod ac yn gweithio gydag ef. Gwyddom y bydd ei golled yn un ddwys.
Meddai Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Carl James:
"Roedd Tom yn arweinydd ysbrydoledig, yn gydweithiwr ac yn ffrind hynod werthfawr. Roedd ei gyfraniad i wasanaethau canser yng Nghymru yn wirioneddol eithriadol. Drwy ei arweinyddiaeth genedlaethol, ei waith i wella llwybrau canser, a'i ymrwymiad i drawsnewid gwasanaethau i gleifion, helpodd i lunio gofal canser nid yn unig i Felindre, ond i bobl a theuluoedd ledled Cymru a'r tu hwnt. Daeth ag eglurder, uchelgais a dynoliaeth i rai o'r datblygiadau pwysicaf ym maes gwasanaethau canser, a bydd effaith ei golled yn cael ei theimlo am flynyddoedd lawer i ddod. Ar ran yr Ymddiriedolaeth, hoffwn estyn ein cydymdeimlad dwysaf at deulu Tom, ei ffrindiau a'i gydweithwyr, yn ogystal â phawb a oedd yn ei adnabod ac yn ei garu."
Meddai Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Jaz Abraham:
"Roedd Tom yn glinigydd, arweinydd, cydweithiwr a ffrind eithriadol. Roedd ei dosturi a’i ymrwymiad diflino i gleifion wrth galon popeth a wnâi. Bydd y rhai a weithiodd gydag ef yn cofio am ei haelioni, ei gynhesrwydd, a'r gofal at gydweithwyr cymaint ag at gleifion a theuluoedd. Roedd yn cael ei barchu'n fawr ar draws ein gwasanaeth ac ar draws y gymuned ganser ehangach, a bydd llawer iawn o bobl yn teimlo ei golled yn ddwys. Rydym yn hynod ddiolchgar am bopeth a roddodd Tom i Felindre ac i ofal canser ledled Cymru a'r DU. Mae ein meddyliau gyda'i deulu a phawb y mae'r newyddion trist iawn hyn yn effeithio arnynt."
Diolch Tom. Thank you Tom.