Dydy'r cynnwys hwn ddim ar gael yn Gymraeg yn anffodus. Gweler y fersiwn Saesneg.
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r sefydliad gofal iechyd cyntaf yn y byd – a'r Ymddiriedolaeth GIG, gwasanaeth canser arbenigol, a’r gwasanaeth gwaed cyntaf – i gyflawni'r ardystiad ISO 56001 ar gyfer Rheoli Arloesedd, ochr yn ochr â Nod Barcud Rheoli Arloesedd y BSI.
Mae'r cyflawniad nodedig hwn yn gosod Felindre fel arweinydd rhyngwladol ym maes llywodraethu arloesedd, ac yn dangos bod systemau, prosesau a diwylliant yr Ymddiriedolaeth yn bodloni'r safonau uchaf o ran arferion gorau ar draws y byd.
ISO 56001 yw'r safon ryngwladol gyntaf yn y byd ar gyfer Systemau Rheoli Arloesedd y gall sefydliadau gael eu hardystio ynddo, a gyflwynwyd yn 2024. Mae'n esbonio beth mae angen i sefydliadau ei wneud i adeiladu ffordd glir, drefnus, ac wedi'i seilio ar dystiolaeth o reoli arloesedd ym mhob rhan o waith y sefydliad — gan gynnwys strategaeth, diwylliant, prosesau, llywodraethu, a gwelliant parhaus.
Mae Nod Barcud Rheoli Arloesedd y BSI yn ardystiad sy'n cael ei barchu ar draws y byd ac sy'n adeiladu ar y safonau hyn, drwy ddangos rhagoriaeth sefydliadol mewn arloesi. Mae'n cryfhau safle cystadleuol, yn cefnogi ceisiadau am gyllid a phartneriaethau, ac yn arwydd o ddiwylliant arloesi rhagweithiol, sy'n canolbwyntio ar bobl.
Mae cyflawni'r ardystiad hwn yn cadarnhau bod gwaith arloesi Felindre yn cael ei lywodraethu'n dda, yn seiliedig ar dystiolaeth, ac yn dilyn arferion gorau sydd yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol.
Mae'n dangos bod gan yr Ymddiriedolaeth fframwaith strategol, strwythuredig a mesuradwy ar gyfer datblygu a chyflawni arloesedd, ac yn sicrhau ei fod yn cael ei fonitro’n dda ac o ansawdd cyson. Mae hefyd yn cadarnhau bod gwaith arloesi Felindre wedi'i gynllunio'n fwriadol i wneud gwelliannau mawr mewn gofal cleifion, ac i helpu i drawsnewid gwasanaethau mewn ffordd ystyrlon.
Meddai Jennet Holmes, Pennaeth Arloesi yn Felindre, “Mae cyflawni'r ardystiad ISO 56001 a Nod Barcud y BSI ar gyfer Rheoli Arloesedd yn foment bwysig dros ben i Felindre, ac yn garreg filltir ar gyfer arloesi mewn gofal iechyd ar draws y byd.”
"Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad cryf i ddarparu gwasanaethau o'r radd flaenaf ac i drawsnewid gofal canser a gwaed trwy ddod o hyd i ffyrdd newydd strwythuredig, tosturiol a blaengar o ddarparu gofal. Rydym yn falch dros ben o fod y sefydliad gofal iechyd cyntaf yn y byd i gyflawni'r ardystiadau hyn, ac yn teimlo anrhydedd bod ein gwaith yn gosod y meincnod byd-eang ar gyfer arloesedd mewn gofal iechyd. Mae'r cyflawniad hwn yn cryfhau ein huchelgais i gyflawni effaith ystyrlon a mesuradwy i gleifion a rhoddwyr.”
Meddai Carl James, Prif Weithredwr Dros Dro Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, “Mae’r gydnabyddiaeth hon yn dyst i ymroddiad, creadigrwydd ac arweinyddiaeth cydweithwyr ar draws Gwasanaeth Canser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru.
“Mae eu hymrwymiad i gofleidio syniadau newydd, technolegau newydd, a ffyrdd newydd o weithio yn sbarduno newid go iawn i’r cleifion a’r rhoddwyr rydyn ni’n eu gwasanaethu ar draws Cymru a thu hwnt. Mae'r cyflawniad hwn yn adlewyrchu cryfder ein timau a'n huchelgais gyffredin i wella'r gofal a'r gwasanaethau a ddarparwn yn barhaus.”
Gosododd strategaeth Arloesi Cymru , a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2023, uchelgais glir i sefydliadau GIG Cymru gryfhau eu gwaith arloesi drwy weithio i geisio cyflawni’r ardystiad ISO 56001.
Meddai Dr. Tom James, Pennaeth Strategaeth a Pholisi Arloesedd, Llywodraeth Cymru, "Mae Cymru'n Arloesi: mae Strategaeth Arloesi Cymru 2023 gan Lywodraeth Cymru, yn gosod uchelgais glir i sefydliadau GIG Cymru gryfhau eu gwaith arloesi drwy ddefnyddio'r ardystiad ISO56001 fel y safon ryngwladol ar gyfer rheoli arloesedd.
"Mae Felindre, fel y sefydliad GIG cyntaf yng Nghymru i ennill ardystiad ISO56001, yn gam enfawr ymlaen o ran proffesiynoli rheoli arloesedd ar draws y GIG a'r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru."
O ganlyniad i ddod y sefydliad cyntaf yn y byd i sicrhau'r achrediad hwn, mae hyn yn gosod Felindre fel:
Mae'r garreg filltir hon yn gosod Felindre ymhellach fel arweinydd mewn arloesi ar draws GIG Cymru a rhwydweithiau gofal iechyd ar draws y byd.
Mae Tîm Arloesi Felindre yn cyflawni newidiadau mawr ar draws y gwasanaethau iechyd yn barod. Mae dau brosiect diweddar yn dangos sut mae arloesedd yn gwella canlyniadau i gleifion a'r system ehangach:
Prosiect Calon y Ddraig – Gwasanaeth Gwaed Cymru
Menter arloesol sy'n defnyddio dronau sydd yn hedfan eu hunain i chwyldroi cludiant meddygol yng Nghymru. Mae'r datblygiad mawr hwn yn cyfuno technoleg hedfannaeth arloesol gyda gwasanaethau gofal iechyd rheng flaen, gyda'r nod o gyflymu amseroedd dosbarthu, gwella dibynadwyedd, a gwella gwydnwch ar draws y gadwyn gyflenwi gwaed a thrallwysiadau.
Bandiau Arddwrn gyda Chod QR ar gyfer Cleifion Gofal Lliniarol
Datrysiad digidol arloesol sy'n galluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys ymatebwyr brys, i gael mynediad ar unwaith at wybodaeth feddygol hanfodol trwy fand arddwrn syml gyda chod QR arno. Mae hyn yn sicrhau bod cleifion gofal lliniarol yn derbyn y gofal cywir ar yr amser cywir, ble bynnag maen nhw.