5 Rhagfyr 2025
Cyhoeddwyd datganiad gennym ar 28 Tachwedd ynghylch David Donegan yn gadael y sefydliad. Mae’r Ymddiriedolaeth wedi bod yn glir na fydd yn gwneud sylwadau ar faterion sy'n ymwneud â chyflogaeth unigolion.
Dros y dyddiau diwethaf, bu rhagor o sylw yn y cyfryngau ynghylch Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, sef un o’r cyrff cenedlaethol a gynhelir gan yr Ymddiriedolaeth. Codwyd cwestiynau hefyd yn ystod y Cyfarfod Llawn yn y Senedd yn gynharach yr wythnos hon ar yr un materion.
O ystyried difrifoldeb y cyhuddiadau hyn, mae’r Ymddiriedolaeth yn teimlo ei bod yn bwysig iawn egluro'r mater hwn – nid yw wedi gweld, nac wedi derbyn, unrhyw dystiolaeth sy’n awgrymu troseddoldeb.
Heddiw, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddatganiad ysgrifenedig ar y materion hyn. Hoffem dynnu eich sylw ato.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn edrych ymlaen at weithio gyda’n cydweithwyr ym Mhartneriaeth y Cydwasanaethau, y Byrddau Iechyd Lleol a Llywodraeth Cymru i roi argymhellion terfynol yr adolygiad llywodraethu ar waith er mwyn cryfhau trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd ymhellach.
Y prif ffocws i’r Ymddiriedolaeth yw sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel i’r bobl a wasanaethwn. Rydym yn cydnabod y gall cyhuddiadau o’r fath achosi gofid a phryder ymhlith ein staff, ein cleifion, ein rhoddwyr a’r cyhoedd ehangach. Hoffem roi sicrwydd i bawb fod ein ffocws yn parhau, fel bob amser, ar ddarparu gofal rhagorol.