Dydy'r cynnwys hwn ddim ar gael yn Gymraeg yn anffodus. Gweler y fersiwn Saesneg.
Diolch i bawb a gymerodd ran yn ein gweithdai cymunedol diweddar yn Ysbyty’r Eglwys Newydd.
Fe wnaethom drefnu’r ddau weithdy i ddod â phobl at ei gilydd i gynhyrchu syniadau a thrafodaethau ar ddyfodol safle Ysbyty’r Eglwys Newydd.
Mae'r sesiynau hyn yn rhan o ymrwymiad parhaus Felindre i gadw'r gymuned yn wybodus ac yn rhan o'r broses wrth i’r cynlluniau ar gyfer y safle symud yn eu blaen.
Rydym yn gwybod fod gan y safle bwysigrwydd hanesyddol ac emosiynol. Daeth Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn berchennog cyfreithiol adeiladau Ysbyty’r Eglwys Newydd a'r tir cyfagos ym mis Tachwedd 2024, yn sgil trosglwyddo o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Ym mis Hydref 2025,fe wnaethom gyhoeddi ein bod ni wedi gwahodd partïon â diddordeb i fynegi eu diddordeb yn yr eiddo fel rhan o gam yn y broses werthu.
Creodd y gweithdai ofod gwerthfawr i bobl o wahanol gefndiroedd ddod at ei gilydd, rhannu safbwyntiau, ac archwilio ffyrdd y gallai'r safle fod o fudd i'r gymuned.
Bydd y syniadau a gynhyrchwyd a'r adborth a gyflwynwyd nawr yn chwarae rhan bwysig wrth lunio camau nesaf y gwaith hwn.
Bydd yr hwyluswyr a ddygwyd i mewn gan Felindre i gynnal y sesiynau yn cynhyrchu adroddiad, a fydd ar gael i'r cyhoedd, sy'n crynhoi'r syniadau a rannwyd yn ystod y sesiynau. Bydd yr adroddiad hwn hefyd yn cael ei rannu'n uniongyrchol gydag unrhyw ddatblygwyr posibl.
Mae'r Ymddiriedolaeth wedi ymrwymo i weithredu fel tirfeddiannwr cyfrifol, ac i ymgysylltu'n agored â'n partneriaid a'r gymuned. Bydd cyfleoedd pellach i ymgysylltu â'r broses, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, cysylltwch â'r tîm drwy e-bostio contact.velindre@wales.nhs.uk
Diolch unwaith eto i bawb sydd wedi cymryd rhan.