Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Gwaed Cymru yn apelio ar roddwyr i lenwi 13,000 o apwyntiadau wrth i donnau gwres effeithio ar stociau gwaed

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn annog pobl ar draws Cymru i wneud apwyntiad i roi gwaed yr haf hwn, wrth i dywydd cynnes, gwyliau ac arferion newidiol barhau i roi pwysau ar stociau gwaed.

 

Yn draddodiadol, yr haf yw un o gyfnodau mwyaf heriol y flwyddyn ar gyfer casglu gwaed. Gyda llawer o bobl yn teithio dramor, yn mynychu digwyddiadau ac yn manteisio i'r eithaf ar y dyddiau hirach, yn aml, mae llai o apwyntiadau rhoi gwaed yn cael eu trefnu, a gall presenoldeb rhoddwyr gael ei effeithio. Mae cyfnodau diweddar o dywydd poeth wedi ychwanegu mwy o bwysau, gan wneud cyfnod sydd eisoes yn anodd hyd yn oed yn fwy heriol.

 

Mae tonnau gwres hefyd wedi amharu’n fawr ar sesiynau rhoi gwaed sydd wedi cael eu cynllunio. Y mis diwethaf, bu’n rhaid i Wasanaeth Gwaed Cymru ganslo tua 1,400 o apwyntiadau oherwydd cyfnodau o wres eithafol, y lefel uchaf o ganslo sy’n gysylltiedig â’r tywydd hyd yn hyn.

 

Mae angen tua 350 o roddion bob dydd i gefnogi cleifion sy'n cael llawdriniaeth, triniaeth canser, gofal brys a thriniaeth yn ystod genedigaeth. Er bod ysbytai yn parhau i dderbyn y cynhyrchion gwaed sydd eu hangen arnynt, mae'r haf yn parhau i fod yn un o'r adegau mwyaf heriol o'r flwyddyn i gynnal lefelau stoc iach.

 

Er y bydd diogelwch rhoddwyr bob amser yn flaenoriaeth, mae'r apwyntiadau coll hyn wedi ei gwneud hi hyd yn oed yn fwy anodd i fodloni'r galw am waed mewn ysbytai yn ystod cyfnod o'r flwyddyn sydd eisoes yn heriol.

 

Nod Gwasanaeth Gwaed Cymru ydy cadw o leiaf saith diwrnod o stoc ar gyfer pob grŵp gwaed, ac mae'n annog rhoddwyr A Positif, O Positif, O Negatif a B Negatif yn arbennig i ddod ymlaen.

 

Mae llawer o bobl yn synnu o glywed y gallent fod yn gymwys i roi gwaed. Gall y rhan fwyaf o oedolion iach rhwng 17 a 66 oed ddod yn rhoddwyr gwaed, ac mae croeso arbennig i roddwyr tro cyntaf. Mae unrhyw un sy'n ansicr ynghylch p’un a allant roi gwaed neu beidio yn cael eu hannog i wirio eu cymhwysedd ar-lein cyn gwneud apwyntiad.

 

'Mae angen gwaed bob dydd'

 

Mae mwy na 13,000 o apwyntiadau ar gael ar draws Cymru yn ystod yr Haf. Hyd yn hyn, mae tua 5,500 wedi cael eu llenwi, gan adael mwy na 7,000 o apwyntiadau ar gael o hyd.

 

Dywedodd Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: "Mae angen gwaed bob dydd, waeth beth fo'r tymor neu'r tywydd. Mae'r haf bob amser yn un o'r cyfnodau mwyaf heriol ar gyfer rhoi gwaed, ac mae tonnau gwres diweddar wedi ychwanegu mwy o bwysau ar adeg pan fo rhoddion yn draddodiadol, yn gostwng.

 

"Rydym yn ddiolchgar dros ben i bawb sydd wedi gwneud apwyntiad yn barod, ond mae angen miloedd mwy o hyd. Mae pob rhodd yn helpu i sicrhau bod gan ysbytai'r cynhyrchion gwaed y mae cleifion yn dibynnu arnynt ar gyfer llawdriniaeth, triniaeth canser, gofal brys a llawer o driniaethau achub bywyd eraill.

 

"Rydym yn parhau i ateb anghenion cleifion ar draws Cymru, ond mae pob rhodd yn bwysig. Boed yn rhoddwr rheolaidd neu'n ystyried rhoi gwaed am y tro cyntaf, byddem yn eich annog i wneud apwyntiad heddiw. Gall un rhodd helpu i achub neu wella hyd at dri bywyd."

 

Mae pobl sydd yn cynllunio gwyliau yn cael eu hannog i roi gwaed cyn iddynt deithio lle bo modd. Dylai rhoddwyr sy'n dychwelyd o dramor wirio eu cymhwysedd cyn gwneud apwyntiad.

 

Gyda mwy na 7,000 o apwyntiadau ar gael o hyd yr haf hwn mewn clinigau rhoi gwaed mewn cymunedau ar draws Cymru, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn annog rhoddwyr cymwys i wneud apwyntiad heddiw, a helpu i sicrhau bod ysbytai ar draws Cymru yn parhau i gael y gwaed sydd ei angen arnynt.

 

I wneud apwyntiad, ewch i www.wbs.wales/haf26 neu ffoniwch 0800 252 266 .