Tad yn achub mab sy'n brwydro yn erbyn anhwylder gwaed prin
Cafodd Jasper Hodgson-Smith, saith oed, ddiagnosis o anhwylder gwaed prin a oedd yn peryglu bywyd. Daeth yr iachâd gan ei Dad, Matt, celloedd bonyn perffaith i helpu Jasper i oresgyn y clefyd.
Mae teulu Abertawe yn gobeithio y bydd rhannu eu stori ar gyfer Wythnos Rhoddwyr Gwaed Genedlaethol (09 – 15 Mehefin 2025) yn annog mwy o bobl i ystyried helpu cleifion mewn angen trwy roi gwaed neu gelloedd bonyn gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru.