Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Meddwl Ymlaen

26 Mai 2026

Os ydych chi wedi cael diagnosis o ganser na ellir ei drin, ac yr hoffech fynychu unrhyw un o'r sesiynau isod, mae croeso i chi ddod i sesiwn sy'n addas i chi, neu i’r holl sesiynau.

Mae'r sesiynau hefyd ar gael i bobl sy'n agos atoch chi – partner, aelod o'r teulu neu ffrind. Does dim angen archebu lle, a does dim rhaid i chi rannu unrhyw beth yn ystod y sesiwn.

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol o Felindre i roi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i chi.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ymlaen llaw, mae croeso i chi gysylltu â'r gwasanaeth seicoleg glinigol ar 02920 196141 neu 02920196130.

 

Bydd yr holl sesiynau yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Maggie's Caerdydd.

Sesiwn

Dyddiad ac amser

Hwylusydd

Enw'r Adran a'r Sesiwn

1

3 Mehefin 2026

10am-11.30am

Gwybodaeth i Gleifion / Maggie's

Adnoddau gwybodaeth i gleifion a gofal cefnogol

2

10 Mehefin 2026

10am-11.30am

Tîm Hawliau Lles

Budd-daliadau a chyllid

3

17 Mehefin 2026

10am-11.30am

Gofal Cefnogol

Trafod canser gyda phlant

4

24 Mehefin 2026

10am-11.30am

Deieteg Rheolaeth ar eich deiet

5

1 Gorffennaf 2026

10am-11.30am

Therapi Galwedigaethol / Ffisiotherapui

Ymdopi â gorflinder a chadw'n heini

6

8 Gorffennaf 2026

10am-11.30am

Tîm Therapïau Cyflenwol

Therapïau cyflenwol yn eich gofal canser

7

15 Gorffennaf 2026

10am-11.30am

Tîm Seicoleg Glinigol a Chwnsela

Effaith canser ar eich hunaniaeth

8

22 Gorffennaf 2026

10am-11.30am

Tîm Seicoleg Glinigol a Chwnsela

Ymdopi â'ch emosiynau

9

29 Gorffennaf 2026

10am-11.30am

Maggie's

Cymorth i deuluoedd a gofalwyr

10

5 Awst 2026

10am-11.30am

Y Gaplaniaeth

Ysbrydolrwydd a finnau

11

12 Awst 2026

10am-11.30am

Taylor Edmunds, Bardd

Gweithdy ysgrifennu creadigol

12

19 Awst 2026

10am-11.30am

Tîm Nyrsio Gofal Lliniarol

Cynllunio gofal pellach a gofal hosbis