17 Rhagfyr 2025
Mae Partneriaid Iechyd Caerdydd (CHP), partneriaeth strategol rhwng Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, wedi penodi Rachel Savery yn Reolwr Gyfarwyddwr dros dro.
Mae CHP yn gydweithrediad unigryw rhwng tri o brif sefydliadau iechyd Caerdydd i gryfhau darpariaeth gofal iechyd, meithrin rhagoriaeth ymchwil, twf economaidd a lles cymdeithasol ar draws y brifddinas a rhanbarth ehangach De Ddwyrain Cymru.
Fel ei Reolwr Gyfarwyddwr dros dro, bydd Mrs Savery yn gweithredu ar draws y bartneriaeth strategol, gyda chyfrifoldeb cyffredinol am sicrhau bod potensial trawsnewidiol CHP ar y trywydd iawn i gael ei gyflawni.
Nod Partneriaid Iechyd Caerdydd ydy creu miloedd o swyddi medrus, a chyfrannu hyd at £800 miliwn at economi'r rhanbarth dros y ddegawd nesaf.
Wrth sôn am ei phenodiad, meddai Rachel Savery: "Rwyf wrth fy modd o gael fy mhenodi i’r rôl hon ar adeg mor gyffrous i Bartneriaid Iechyd Caerdydd. Mae'r cydweithrediad hwn yn dwyn ynghyd arbenigedd o'r radd flaenaf i wella gofal cleifion, cyflymu ymchwil, a chreu buddion economaidd a chymdeithasol go iawn i'n rhanbarth. Rwyf yn edrych ymlaen at weithio gyda'n partneriaid i wireddu'r weledigaeth hon.”
Cyn ymuno â CHP, roedd Mrs Savery yn Bennaeth Rhaglenni Therapïau Datblygiedig Cymru, rhaglen genedlaethol unigryw sy'n sbarduno cydweithio ac arloesedd mewn therapïau celloedd a genynnau i wella gofal cleifion a gosod Cymru fel arweinydd ym maes therapïau datblygiedig.
Dywedodd Prif Weithredwr Dros Dro Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Carl James: "Mae Partneriaid Iechyd Caerdydd yn ymwneud â chyflawni mwy gyda'n gilydd nag y gallwn ar ein pen ein hunain." Mae penodiad Rachel fel Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro yn rhoi ffocws a momentwm clir i'r bartneriaeth i alinio ein cryfderau a chyflawni ar gyfer y rhanbarth.”
Bydd ffocws cychwynnol Partneriaid Iechyd Caerdydd ar gryfderau cystadleuol a gydnabyddir yn fyd-eang, gan gynnwys Canser, Therapïau'r Ymennydd, a Meddygaeth Fanwl.
Bydd y tri sefydliad yn cysylltu asedau a galluoedd ar draws y bartneriaeth, ac yn creu meysydd profi a llwybrau cydlynol. Gobeithir y bydd hyn yn helpu i leihau rhwystrau trwy lywodraethu ar y cyd, symleiddio darparu ymchwil, a thrwy gyfuno mynediad at ddata.
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Wendy Larner: “Mae’n bleser gennym groesawu Rachel fel Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro. Mae hwn yn benodiad pwysig a fydd yn helpu i gyflawni ein hymrwymiad ar y cyd i wella canlyniadau iechyd, ysgogi arloesedd, a chreu manteision parhaol i'n cleifion a'n cymunedau. Byddwn yn gweithio ar y cyd, gyda'n partneriaid yn y diwydiant, i wasanaethu fel catalydd ar gyfer newid cadarnhaol, ac yn gosod safonau newydd ar gyfer cydweithio a chreu effaith.”
Mae gan y tri phartner, yn unigol a gyda’i gilydd, asedau allweddol ar draws Caerdydd wrth law – o ganolfannau ymchwil arloesol i ofodau addysg, treialon pwrpasol a seilwaith arbrofi, i alluoedd gweithredu graddfa fawr.
Ychwanegodd Suzanne Rankin, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: “Rwy’n gweld Partneriaid Iechyd Caerdydd fel y ffordd i wneud y gorau o’r cyfle i gyflwyno, cydweithio, ehangu a chyflymu mynediad at fuddion newid bywyd yr ymyriadau a’r triniaethau newydd hyn i bobl De Ddwyrain Cymru ac ar draws y byd hefyd.”