27 Hydref 2025
Ddydd Iau 23 Hydref, lansiodd rhaglen Celfyddydau mewn Iechyd 'Natur sy’n Iacháu' - arddangosfa gelf staff gyntaf Felindre.
Mae'r arddangosfa grŵp hon o ffotograffau a grëwyd gan ein staff yn rhoi cipolwg unigryw ar y grym adferol sydd gan y byd naturiol. Drwy eu camerâu, mae’r staff wedi dal y rôl hanfodol y mae natur yn ei chwarae wrth gefnogi ein llesiant meddyliol ac emosiynol. Ar adeg pan fo’r pwysau ar weithwyr gofal iechyd yn fwy nag erioed, mae'r ffotograffau hyn yn dathlu’r grym iacháu sydd gan greadigrwydd ei hun.
P’un ai wrth fynd am dro ar ôl sifft, ar ddiwrnod tawel i ffwrdd o’r gwaith neu ar benwythnos allan gyda'r teulu y tynnwyd y lluniau, mae pob un yn adrodd stori am gamu i’r awyr agored, am arafu ac am ailgysylltu â'r hyn sy'n bwysig. Rydym yn eich gwahodd i oedi am funud, i fyfyrio a phrofi’r grym sydd gan y byd naturiol i dawelu, i sefydlogi ac i ysbrydoli.
Dyma restr o’r artistiaid sy'n cyfrannu at yr arddangosfa. Mae rhai wedi cynnwys ychydig o baragraffau i esbonio eu harfer artistig:
- Aaron Thomas, Cyn Gydlynydd Tîm Amlddisgyblaethol y Gwasanaeth Gwenwyndra Imiwnotherapi (3 darn o waith celf)
- Amy Matthew Stanbury, Nyrs Ymchwil (3 darn o waith celf)
- Machlud: Rwy'n teimlo bod y ddelwedd hon yn cyfleu ymdeimlad o obaith ac adnewyddiad. Mae'r golau cynnes yn gorchuddio'r cae ac yn symbol o addewid o orffwys ac o ddechrau newydd. Rwy’n gobeithio bod yr olygfa dawel o gefn gwlad yn ennyn myfyrdod ac yn atgoffa rhywun o’r gwydnwch tawel a ganfyddir mewn natur.
- Blodau: Rwy’n gobeithio bod y ddelwedd hon yn dal afiaith y gwanwyn wrth i’r blodau pinc ymfywhau o dan awyr las lachar. Mae pob blodyn yn dyst i wydnwch natur, yn ymddangos ar ôl llonyddwch y gaeaf. I mi, mae'r olygfa hon yn ymgorffori thema rhinweddau iacháu natur drwy ein hatgoffa o'r cryfder a ganfyddir mewn adnewyddiad a thwf.
- Y Môr: Mae'r ddelwedd hon yn adlewyrchu harddwch cysurlawn y môr a'i rym i ennyn heddwch a myfyrdod. Mae llanw a thrai'r tonnau yn dangos cysondeb newid, ac mae’n cynnig ennyd o dawelwch yng nghanol anhrefn bywyd. Mae'r ddelwedd hon yn deyrnged i rôl y môr fel iachäwr ac fel noddfa.
- Claire Illari, Nyrs Staff (2 darn o waith celf)
- Di-deitl: Tynnais y llun hwn pan oeddwn yn cerdded ein cŵn o amgylch pwll lleol ein cymuned yng Nghaerffili. Safai crëyr glas yn stond yn y gors, yn amyneddgar a sicr, yn aros am yr hyn oedd i ddod. Byddaf yn gweld crehyrod yno’n aml a byddaf yn meddwl am y ffordd maen nhw'n profi bywyd. Efallai nad ydyn nhw'n cwestiynu dyfnder y pwll neu lwybr y cymylau. Efallai eu bod nhw ond yn ymddiried. Ac efallai mai dyna beth yw gobaith. Nid yr hiraeth am rywbeth nas gwelir yn unig, ond y gred dawel y bydd yr hyn sydd ei angen arnom yn dod yn ei amser ei hun, yn union fel y pryd nesaf i’r crëyr glas, y gawod law nesaf i’r pwll, a'r wawr a ddaw wedi’r nos bob amser.
- Di-deitl: Defnyddiais fy ffôn i dynnu’r llun hwn o flodyn mewn tusw mewn archfarchnad brysur iawn. Roedd y lliwiau'n drawiadol ac mewn eiliad, cludwyd fy meddyliau o drip siopa llawn straen i ystyried enfysau. Mae gan bob lliw o’r enfys ei egni ei hun ac mae’r lliwiau’n dod at ei gilydd yn gytgord perffaith. Cryfder y coch, gwawr gynnes y melyn, a thynerwch môr llonydd y glas. Gyda'i gilydd, maen nhw'n creu sbectrwm o obaith, symbol o ddechrau newydd. Parodd y blodyn bach hwn i mi brofi eiliad o ryfeddod, yn union fel y teimlad a gaiff ei ysgogi wrth weld enfys ar ôl storm. Pwniad sydyn ond boddhaus i brofi y gall yr annisgwyl ddigwydd yn gwbl ddirybudd - hyd yn oed wrth weld blodyn anarferol mewn archfarchnad brysur.
-
Debbie Worthing, Therapïau Datblygedig Cymru (5 darn o waith celf – aml-ffrâm)
-
Emma Aherne, Technegydd Therapïau Generig Macmillan (3 darn o waith celf)
- Cerrig mân wedi’u cydbwyso: Pan fydd bywyd yn teimlo'n anodd, gall cydbwyso popeth gymryd amser ac amynedd. Ond drwy flaenoriaethu’r hyn sydd bwysicaf i ni a’u rhoi yn y drefn gywir, bydd y cyfan yn tawelu a cheir ymdeimlad o sefydlogrwydd a llonyddwch. Cymerwch funud i gamu'n ôl ac edrych ar yr hyn rydych chi wedi'i greu i chi eich hun gan gydnabod yr holl waith caled rydych chi wedi'i wneud. Gall ystyried hyn ac edrych ar yr hyn sydd i ddod ymddangos yn anodd o hyd. Ond pan fyddwn yn edrych ymlaen ar dirwedd y darlun ehangach, gallwn weld ehangder y môr, a’r posibiliadau diddiwedd ar gyfer adnewyddu ac iacháu. Mae'r dŵr yn rhoi'r cyfle i ni fyfyrio ar yr hyn rydyn ni wedi’i brofi yn y gorffennol, a'i werthfawrogi er mwyn cyrraedd y fan lle'r ydyn ni nawr.
-
Llwybr o’r gât: Efallai nad y llwybr mwyaf amlwg bob amser yw’r un i'w ddilyn i gyflawni'r hyn sydd orau i ni. Gall deimlo’n annheg pan fydd y llwybr i fyny’r rhiw, â’r awyr las glir a’r hyn sy'n ymddangos yn lasach ar yr ochr draw, ar gau. Efallai mai'r llwybr rydyn ni eisoes arno a’r llwybr rydyn ni wedi bod yn ei ddilyn yw’r un iawn i ni. Efallai mai'r llwybr sy’n ymddangos fel petai wedi’i deithio’n llai aml yw'r ffordd syth at y goleuni o'n blaenau. Mae'r haul sy'n goleuo'r ffordd yn awgrymu arwain at obaith dechrau newydd, gwydnwch ac iachâd.
-
Coedwig yng ngolau’r haul: Gobaith yw'r llewyrch pan fydd rhwystrau yn eich ffordd. Ni waeth pa mor gadarn y byddan nhw wedi'u gwreiddio, na pha mor anodd a niferus y gallan nhw fod, cofiwch fod pelydrau o oleuni yn torri drwy'r tywyllwch. Mae'r ffordd y bydd y golau’n treiddio drwy'r coed yn symbol o arweiniad ac eglurder, a bydd yn adleisio’r teimladau cynnes o obaith. Pan na fyddwn yn gallu gweld y darlun cyfan, bydd yr haul yn gadael i ni wybod bod amseroedd gwell i ddod. Golau'r haul yw'r hyn sy'n dylanwadu ar y newidiadau yn y tymhorau, yn ysgogi twf ac adferiad y byd naturiol.
-
Michelle Daniels, Nyrs Arweiniol Hyfforddiant a Gofal Bugeiliol (2 darn o waith celf)
-
Di-deitl: Mae blodyn sy'n goroesi eira oer y gaeaf yn arddangos gallu naturiol y byd i fod yn drech nag unrhyw beth. Mae gobaith yn ffynnu hyd yn oed mewn lle o ansicrwydd oherwydd mae gobaith gwirioneddol yn rhywbeth nas gwelir. Nid yw gobaith a welir yn obaith o gwbl.
-
Di-deitl: Gobaith, bywyd, cysylltiad. Mae bywyd yn cyflenwi bywyd, ac mae gobaith un yn tanio gobaith rhywun arall. Rydym i gyd yn gysylltiedig ac yn gyd-ddibynnol ar ein gilydd. Mae absenoldeb un yn effeithio ar gylch cyfan bywyd.
-
Paul Shaw, Ymgynghorydd Oncoleg (2 darn o waith celf)
-
Sam Bellanato, Swyddog Gwella Ansawdd, Microbioleg Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (3 darn o waith celf)
Diolch o galon i'n holl gyfranwyr am helpu i wireddu'r arddangosfa hardd hon. Gobeithiwn fod y prosiect celf hwn wedi cynnig lle ystyrlon i'n staff fynegi eu creadigrwydd y tu hwnt i ffiniau eu rolau bob dydd. Trwy ein rhaglen Celfyddydau mewn Iechyd, ein nod yw harneisio pŵer celf fel allfa dawel ac ysbrydoledig, gan gefnogi staff a chleifion i leihau straen a gwella lles.
Dysgwch fwy am ein rhaglen Celfyddydau mewn Iechyd yma.